Deddfwriaeth

Rôl y Pwyllgor oedd craffu ar faterion a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

Y Bil cyntaf a ystyriodd oedd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a gyflwynwyd yn ffurfiol i Senedd Cymru ar 18 Medi 2023 fel rhan o Ddiwygio'r Senedd. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 19 Ionawr 2024.

Yr ail Fil a ystyriwyd ganddo oedd Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a gyflwynwyd yn ffurfiol i Senedd Cymru ar 11 Mawrth 2024. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 7 Mehefin 2024.

Y Pwyllgor wedyn ystyriodd a chyhoeddodd adroddiad ar Gorchymyn drafft Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.

Cylch Gwaith

Daeth y Pwyllgor hwn o’r Chweched Senedd i ben yn dilyn cynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Mehefin 2025. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau/


Newidiwyd cylch gwaith y Pwyllgor ar 11 Rhagfyr 2024 i graffu ar faterion y cyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn cael ei ddiddymu:

a) pan fydd y Pwyllgor Busnes wedi penderfynu na fydd rhagor o faterion yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor; neu

b) pan fo'r Senedd yn penderfynu felly;

pa un bynnag sydd gynharaf.


Cylch gwaith gwreiddiol y Pwyllgor a gytunwyd arno yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Gorffennaf 2022 oedd i graffu ar Filiau a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

Bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu naill ai:

a) pan fydd yr holl Filiau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu na fydd unrhyw Filiau pellach yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor; neu

b) pan fydd y Senedd yn penderfynu felly;

pa un bynnag sydd gynharaf.

Aelodau'r Pwyllgor