Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Senedd (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau
Cafodd y Pwyllgor hwn o’r Pedwerydd Cynulliad ei ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Pumed Cynulliad
Y Pwyllgor Busnes oedd yn gyfrifol am drefnu Busnes y Cynulliad. Hwn yw’r unig Bwyllgor y disgrifir ei swyddogaethau a’i gylch gwaith yn y Rheolau Sefydlog. Ei waith yw "hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Cynulliad yn effeithlon", fel y nodir yn Rheol Sefydlog 11.1.
Y Llywydd oedd yn cadeirio’r cyfarfodydd, ac roedd y Gweinidog dros Fusnes y Llywodraeth a Rheolwr Busnes pob un o’r pleidiau eraill a gynrychiolir yn y Cynulliad yn bresennol hefyd.
Roedd y Pwyllgor fel arfer yn cyfarfod yn breifat bob wythnos pan fydd y Cynulliad yn cyfarfod. Bydd yn rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn penderfynu ar drefn busnes y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Ar gyfer y cyfarfodydd hyn, dim ond y cofnodion a gaiff eu cyhoeddi (gweler isod).
Roedd y Pwyllgor yn cyfarfod yn gyhoeddus ar sail ad hoc i wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Cynulliad wrth gynnal ei fusnes, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud neu ddiwygio’r Rheolau Sefydlog.
Roedd y cyfarfodydd hyn yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau arferol ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus ac roedd croeso i aelodau’r cyhoedd eistedd yn yr oriel gyhoeddus i’w harsylwi. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i drefnu i fynd i weld cyfarfod o’r Pwyllgor yn yr adran Mynd i Gyfarfod Pwyllgor.
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Busnes.
Trawsgrifiadau a’r cofnodion
Ymgyngoriadau wedi’u cwblhau
Adroddiadau’r Pwyllgor Busnes
- Adroddiad Etifeddiaeth
- Cynigion i newid y Rheolau Sefydlog
- Amserlenni ar gyfer Biliau
- Amserlenni ar gyfer Cydsyniad Deddfwriaethol Memoranda
- Amserlen ar gyfer cyllideb ddrafft y Llywodraeth
- Portffolios a Chyfrifoldebau’r pwyllgorau
- Confensiynau
- Arall
Amserlen y Cynulliad
Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyhoeddi amserlen bob chwe mis sy'n:
- amlinellu amserlenni'r Cyfarfod Llawn;
- pennu'r amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau eraill yn y Cynulliad;
- pennu'r amserau ar gyfer cyfarfodydd grwpiau gwleidyddol;
- rhestru'r dyddiadau ar gyfer ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn
Aelodaeth
Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:
- Peter Black (19 Mai 2011 - 23 Mai 2012)
- Rosemary Butler (19 Mai 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Jocelyn Davies (19 Mai 2011 - 14 Mai 2013)
- Paul Davies (16 Mai 2014 - 6 Ebrill 2016)
- William Graham (21 Medi 2011 - 18 Chwefror 2014)
- Lesley Griffiths (27 Mawrth 2013 - 16 Medi 2014)
- Jane Hutt (19 Mai 2011 - 19 Mawrth 2013) (16 Medi 2014 - 6 Ebrill 2016)
- Elin Jones (15 Mai 2013 - 6 Ebrill 2016)
- Nick Ramsay (19 Mai 2011 - 21 Medi 2011)
- Aled Roberts (23 Mai 2012 - 6 Ebrill 2016)