Sefydlwyd y Pwyllgor ar 22 Mehefin 2016. Mae cylch gwaith y Pwyllgor, a ddiwygiwyd yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Tachwedd 2019, fel a ganlyn:
- cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A.2 (iv) a (v), 19 ac 20 y Senedd;
- o dan Reolau Sefydlog 19 ac 20, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd mewn perthynas â'r defnydd o adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys ymgymryd â gwaith craffu ar gyllideb cyrff a ariennir yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru;
- o dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o lywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;
- o dan Reol Sefydlog 18A.2 (iv) a (v), i arfer swyddogaethau cyllidebol mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
- bod y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau ariannol i Gymru fel rhan o'i gyfrifoldebau, a'r cynnydd a wnaed wrth wneud hynny;
- gall y Pwyllgor hefyd graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.