Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau
Sefydlwyd y Pwyllgor Deisebau ar 15 Mehefin 2011. Ei rôl oedd ystyried yr holl ddeisebau derbyniadwy a gyflwynwyd gan y cyhoedd. Roedd yn rhaid i’r deisebau fod ar faterion yr oedd gan y Cynulliad y pŵer i weithredu arnynt. Roedd y broses ddeisebau yn galluogi’r cyhoedd i amlygu materion ac i ddylanwadu’n uniongyrchol ar waith y Cynulliad. Mae ei swyddogaethau penodol wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 23.
Trawsgrifiadau
Deisebau
Gwaith a gwblhawyd gan y Pwyllgor Deisebau
Aelodaeth
Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:
- Christine Chapman (15 Mehefin 2011 - 22 Mehefin 2011)
- Russell George (21 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Bethan Jenkins (21 Mehefin 2011 - 24 Hydref 2012) (15 Mai 2013 – 6 Ebrill 2016)
- Elin Jones (25 Hydref 2012 - 14 Mai 2013)
- William Powell (22 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)
- Joyce Watson (22 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)