Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Chweched Senedd

Un o bwyllgorau’r Chweched Senedd (2021 - 2026).

Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ar 7 Mai 2026 a disgwylir i bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn Hydref 2026.

Adroddiad Gwaddol

Adroddiad Gwaddol

Ar ddiwedd pob Senedd, mae pwyllgorau'n edrych yn ôl ar eu gwaith dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn meddwl am y cyngor yr hoffent ei roi i’r pwyllgor nesaf.

Maent yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i bwyllgorau newydd, yr Aelodau sy'n gwasanaethu arnynt, ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn eu gwaith. Gallant helpu pob un ohonom i ddeall beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'r grymoedd a fydd yn dylanwadu ar beth sy'n digwydd nesaf.

Darllen Adroddiad Gwaddol y Chweched Senedd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Aelodau'r Pwyllgor