Rhestr termau

Rhestr termau seneddol

Mynegai A-Y o dermau

Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau

E

Tymor

E-ddemocratiaeth

Mewn e-ddemocratiaeth, defnyddir y cyfryngau digidol newydd (fel Twitter neu Facebook) a dulliau cyfathrebu traddodiadol (fel datganiadau i’r wasg) i sicrhau bod y Senedd yn ymgysylltu’n effeithiol â phobl Cymru ac yn caniatáu iddynt gyfathrebu’n gyflym ac yn hawdd â’r Senedd.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Eithriadau

Materion a gedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017) lle gall Senedd Cymru ddeddfu. Er enghraifft, ni chedwir etholiadau’r Senedd nac etholiadau llywodraeth leol yn ôl o dan "Adran B1 Etholiadau"; ni chedwir trwyddedu ffracio yn ôl o dan "Adran D2 Olew a nwy"; ni chedwir disgyblu gan rieni yn ôl o dan "Adran L12 Cysylltiadau teuluoedd a phlant".

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Etholaeth

Mae Cymru wedi’i rhannu’n 40 o ardaloedd etholiadol, sef etholaethau, ac mae pob un o’r rhain yn ethol Aelod i'r Senedd o dan y system ‘y cyntaf i’r felin’.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Etholiad cyffredinol

Cynhelir etholiad cyffredinol o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Dyma pryd y caiff pawb yn y DU sydd dros 18 oed ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio gyfle i ddewis Aelod Seneddol (AS) a fydd yn eu cynrychioli yn Senedd y DU.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Etholiad Senedd Cymru

Caiff etholiadau’r Senedd eu cynnal bob pum mlynedd fel arfer. Gall pawb dros 16 oed yng Nghymru bleidleisio dros y rhai yr hoffent iddynt eu cynrychioli. Bydd pawb sy’n pleidleisio’n cael dau bapur pleidleisio. Papur i ethol Aelod etholaethol fydd un, sef y person a fydd yn cynrychioli’u hardal leol yn y Senedd. Papur i ethol Aelod rhanbarthol fydd y llall, ond yn hytrach na phleidleisio dros aelodau unigol, bydd pawb yn pleidleisio dros un o’r pleidiau gwleidyddol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn