Rhestr termau

Rhestr termau seneddol

Mynegai A-Y o dermau

Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau

T

Tymor

Toriad

Cyfnodau pan nad yw'r Senedd yn eistedd yn ffurfiol. Gall yr Aelodau ymgymryd â gwaith etholaethol yn ystod y cyfnodau hyn.

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Amserlen y Senedd

Chwilio am y term hwn

Tymor

Trafodion y Senedd

Yr holl waith sy’n digwydd yn y Senedd, gan gynnwys y Cyfarfodydd Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Trethi Cymru

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd trethi sy’n berthnasol i Gymru yn unig eu casglu am y tro cyntaf mewn dros 800 mlynedd:

  • • Disodlwyd Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir (LTT).
  • • Disodlwyd y Dreth Dirlenwi yng Nghymru gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT).

Ers 6 Ebrill 2019, mae pobl sydd â’u prif fan preswylio yng Nghymru, ac sy'n talu treth incwm, wedi bod yn talu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT).

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Treuliau

Gall yr Aelodau hawlio symiau o arian i gyflogi staff ac i redeg swyddfeydd yn eu hetholaethau er mwyn ymdrin â phroblemau ac achosion a godir gan y rhai y maent yn eu cynrychioli. Gelwir y symiau hyn o arian yn dreuliau. Gallant hefyd hawlio ad-daliad am unrhyw gostau y bydd yn rhaid iddynt eu hysgwyddo os bydd angen iddynt aros oddi cartref dros nos i ymgymryd â’u dyletswyddau swyddogol fel Aelodau’r Senedd.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Tŷ Hywel

Dyma lle mae’r rhan fwyaf o swyddfeydd staff y Senedd, ystafelloedd cyfarfod, Ystafelloedd Pwyllgora 4 a 5 a Siambr Hywel, hen siambr drafod y Senedd, sydd bellach yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau addysg

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Tŷ Hywel

Chwilio am y term hwn