Rhestr termau

Rhestr termau seneddol

Mynegai A-Y o dermau

Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau

P

Tymor

Papur gwyn

Papur sy’n nodi darn arfaethedig o gyfraith, ac sy’n gwahodd sylwadauymatebion i ymgynghoriad.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Papur gwyrdd

Dogfennau ymgynghori a gynhyrchir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw papurau gwyrdd.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Papurau wedi’u hadneuo

Mae papurau wedi’u hadneuo’n cynnwys unrhyw bapur y mae angen i Weinidog, y Llywydd neu unrhyw Aelod arall ei osod yn Llyfrgell y Senedd, ac na chaiff ei osod gerbron y Senedd mewn unrhyw fodd arall. Fel arfer, llythyrau neu ryw fath arall o ohebiaeth yw’r rhain ac maent yn trosglwyddo gwybodaeth gan Weinidog i Aelod arall pan na ellir gwneud hynny’n llawn mewn Cyfarfod Llawn. Gallant gynnwys copïau o ohebiaeth â chyrff allanol, mapiau neu wybodaeth ystadegol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Dogfennau, Papurau ac Adroddiadau

Chwilio am y term hwn

Tymor

Penderfyniad (ar Filiau a Gwelliannau)

Gall y Llywydd, yn unol â’r Rheolau Sefydlog, benderfynu ar ffurf briodol Biliau a gwelliannau, sef y ffurf y mae'n rhaid ei dilyn wrth eu cyhoeddi.

Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Penodiadau cyhoeddus

Mae’r penodiadau cyhoeddus a gaiff eu hystyried gan y Senedd yn cynnwys: Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r Comisiynydd Safonau.

Mae pwyllgorau’r Senedd hefyd yn cynnal gwrandawiadau cyn penodi ar gyfer rhai penodiadau cadeiryddion cyrff cyhoeddus yng Nghymru a wneir gan Lywodraeth Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 22/03/2022

Gwrandawiadau cyn penodi ar gyfer penodiadau cyhoeddus dros y Chweched Senedd

Chwilio am y term hwn

Tymor

Pierhead

Adeilad brics coch, rhestredig gradd un a fu unwaith yn ganolbwynt masnachol yng Nghymru. Mae’r Pierhead yn awr yn ganolfan ymwelwyr unigryw lle cynhelir nifer o ddigwyddiadau a chynadleddau.

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Y Pierhead

Chwilio am y term hwn

Tymor

Pleidlais

Fel arfer bydd pleidlais yn cael ei bwrw yn y Cyfarfod Llawn gan ddefnyddio system bleidleisio electronig. Gall yr Aelodau hefyd bleidleisio mewn Cyfarfod Llawn neu gyfarfod pwyllgor trwy godi dwylo, neu drwy alw enwau yn ffurfiol os bydd yn ofynnol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Pleidleisio drwy ddirprwy

Mae pleidleisio drwy ddirprwy ar gael i Aelodau sy'n absennol o'r Senedd am resymau genedigaeth, gofalu am faban neu blentyn sydd newydd ei fabwysiadu, neu sy’n rhan o drefniant geni ar ran pobl eraill, neu Aelodau sy’n absennol oherwydd camesgoriad neu enedigaeth farw. Rhaid i Aelod sy'n gymwys i bleidleisio drwy ddirprwy gytuno â'r Aelod a enwebir yn ddirprwy ar ei ran pryd y bydd y bleidlais ddirprwy yn cael ei bwrw a sut y bydd yn cael ei harfer ar gyfer pob pleidlais.


Rhaid i Aelod a ddynodir yn ddirprwy weithredu yn unol â'r cyfarwyddyd a roddir gan yr Aelod absennol. Bydd y Llywydd yn defnyddio disgresiwn i benderfynu ynghylch cydymffurfiaeth yn yr amgylchiadau hyn.

Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Presiding Officer (Llywydd)

Caiff y Llywydd (Presiding Officer) ei ethol gan yr holl Aelodau a bydd yn gwasanaethu’r Senedd yn ddiduedd. Prif rôl y Llywydd yw cadeirio’r Cyfarfod Llawn, cadw trefn a sicrhau bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu dilyn.

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Llywydd

Chwilio am y term hwn

Tymor

Prif Swyddog Cyfrifyddu

Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2023

Chwilio am y term hwn

Tymor

Prif Weinidog

Aelod o’r Senedd a benodir gan y Brenin, wedi i'r Senedd ei enwebu. Y Prif Weinidog yw arweinydd Llywodraeth Cymru, a bydd wedyn yn penodi Gweinidogion eraill Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 13/01/2023

Chwilio am y term hwn

Tymor

Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd yw Prif Weithredwr Comisiwn y Senedd hefyd ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod staff yn darparu gwasanaethau effeithlon i’r Comisiwn ac i’r Senedd. Y Clerc hefyd yw Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y Comisiwn. Y swyddog cyfrifyddu sy’n gyfrifol am sicrhau bod arian y trethdalwyr yn cael ei wario yn unol â’r gyfraith a rheolau a gynlluniwyd i wneud yn siŵr y caiff ei wario’n briodol ac mewn modd tryloyw.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Proses y gyllideb

Mae modd rhannu cylch cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn gamau penodol: y gyllideb ddrafft, cynnig y gyllideb flynyddol a chynnig cyllideb atodol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Pwyllgor

Grŵp bach o Aelodau’r Senedd yw pwyllgor ac maent gyda'i gilydd, yn cynrychioli cydbwysedd y pleidiau gwleidyddol yn y Senedd. Bydd un o aelodau'r pwyllgor wedi cael ei ethol yn y Senedd yn Gadeirydd y pwyllgor. Bydd y pwyllgorau’n craffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig (Biliau) a pholisïau Llywodraeth Cymru a byddant yn gwneud argymhellion i’w gwella. Ni chaiff Aelodau sydd hefyd yn Ysgrifenyddion y Cabinet neu’n Weinidogion fod yn aelodau o bwyllgor.

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Pwyllgorau

Chwilio am y term hwn

Tymor

Pwyllgor Busnes

Y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am drefnu busnes y Senedd. Ei rôl yw sicrhau bod trafodion y Senedd yn mynd rhagddynt yn effeithiol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Pwyllgor y Rhanbarthau

Cynulliad gwleidyddol ym Mrwsel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a rhanbarthol o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Ymgynghorir â’r pwyllgor pan fydd yr Undeb Ewropeaidd yn datblygu polisïau a deddfwriaeth a gaiff eu gweithredu’n rhanbarthol ac yn lleol. Mae gan Gymru bedwar cynrychiolydd ymhlith dirprwyaeth o 48 o’r DU (24 aelod llawn a 24 eilydd)

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Pwyllgor y Senedd gyfan

Dyma pryd y caiff gwelliannau i Fil hystyried yn fanwl yng Nghyfnod 2 gan holl Aelodau’r Senedd yn hytrach na dim ond gan Aelodau pwyllgor penodol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Pynciau

Gall y Senedd wneud cyfreithiau ar gyfer Cymru. Gelwir cyfreithiau’r Senedd yn Ddeddfau. Cyn i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gael ei diwygio gan Ddeddf Cymru 2017, roedd gan y Senedd y pŵer i greu Deddfau yn y 21 pwnc isod:

  1. Amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgodfeydd a datblygu gwledig
  2. Henebion ac adeiladau hanesyddol
  3. Diwylliant
  4. Datblygu economaidd
  5. Addysg a hyfforddiant
  6. Yr amgylchedd
  7. Y gwasanaeth tân ac achub a hyrwyddo diogelwch
  8. Bwyd
  9. Iechyd a’r gwasanaethau iechyd
  10. Priffyrdd a thrafnidiaeth
  11. Tai
  12. Llywodraeth leol
  13. Senedd Cymru
  14. Gwasanaethau cyhoeddus
  15. Lles cymdeithasol
  16. Chwaraeon a hamdden
  17. Twristiaeth
  18. Trethi wedi'u datganoli
  19. Cynllunio gwlad a thref
  20. Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd
  21. Yr iaith Gymraeg

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Chwilio am y term hwn