Gall is-ddeddfwriaeth fod ar sawl ffurf. Offeryn statudol Cymreig yw'r ffurf fwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y bydd y rheolau a nodir yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gymwys i'r is-ddeddfwriaeth. Mae gan y Senedd wahanol weithdrefnau ar gyfer ymdrin ag offerynnau statudol. Y gweithdrefnau mwyaf cyffredin yw’r weithdrefn annilysu a’r weithdrefn gymeradwyo (gweler rhannau eraill o’r eirfa).
Newidiodd y gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chyhoeddi offerynnau statudol yng Nghymru o 1 Ionawr 2026 ymlaen. Rhagor o wybodaeth.