Yng Nghyfansoddiad anysgrifenedig y Deyrnas Unedig, y Frenhines neu’r Brenin yw pennaeth y wladwriaeth. Caiff penderfyniadau i arfer pwerau sofran eu dirprwyo gan y frenhiniaeth, naill ai drwy statud neu drwy gonfensiwn, i weinidogion neu swyddogion y Goron. Gall hyn gynnwys Gweinidogion Cymru ar gyfer cyfreithiau sy'n ymwneud â Chymru.
Rhestr termau
Rhestr termau seneddol
Mynegai A-Y o dermau
Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau
Y
Tymor
Y Bumed Senedd
Mae’r Bumed Senedd yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 2016 a mis Ebrill 2021.
Yn ystod y Bumed Senedd newidiodd y sefydliad ei enw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, neu’r Senedd, fel y’i gelwir. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gweld pobl yn cyfeirio ato fel y Pumed Cynulliad yn ogystal â’r Bumed Senedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y cyntaf i’r felin
System etholiadol sy’n rhoi buddugoliaeth i’r ymgeisydd sy’n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau. Yn etholiadau’r Senedd, caiff 40 o Aelodau eu hethol i gynrychioli etholaethau drwy gyfrwng y system hon.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y Cynulliad Cyntaf
Mae’r Cynulliad Cyntaf yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 1999 a mis Ebrill 2003
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y Chweched Senedd
Mae'r Chweched Senedd yn cwmpasu'r cyfnod o amser o fis Mai 2021 ymlaen.
Cynhelir etholiadau nesaf y Senedd ym mis Mai 2026.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
Ar 1 Ebrill 2018, disodlwyd y Dreth Dirlenwi yng Nghymru gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT). Telir y Dreth Gwarediadau Tirlenwi pan gaiff gwastraff ei waredu mewn safleoedd tirlenwi. Mae’n cael ei chodi yn ôl pwysau’r gwastraff. Mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei gweinyddu gan Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae'n daladwy gan weithredwyr tirlenwi yng Nghymru. Mae'r cyfraddau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru ac yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y Dreth Trafodiadau Tir
Ar 1 Ebrill 2018, disodlwyd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir (LTT). Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn dreth yr ydych yn ei thalu pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl / dibreswyl neu ddarn o dir yng Nghymru dros bris penodol. Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chasglu gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). O dan gyfundrefn y Dreth Trafodiadau Tir, mae cyfraddau a bandiau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. Mae'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru ac yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y Pedwerydd Cynulliad
Mae’r Pedwerydd Cynulliad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 2011 a mis Ebrill 2016
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y Senedd
Yr adeilad cyhoeddus ym Mae Caerdydd lle cynhelir busnes y Senedd. Mae gan bobl Cymru fynediad am ddim i'r Senedd a'r oriel gyhoeddus, lle gallant arsylwi ar Aelodau wrth eu gwaith.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y Senedd Ieuenctid
60 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sydd wedi'u hethol i gynrychioli pobl ifanc yng Nghymru
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y Swyddfa Gyflwyno
Y Swyddfa Gyflwyno sy’n gyfrifol am roi cyngor diduedd i Aelodau’r Senedd ynghylch gweithdrefnau’n ymwneud â Busnes y Senedd, ac ynghylch a yw Busnes y Senedd yn dderbyniol. Mae hyn yn cynnwys pob agwedd ar Fusnes y Senedd yn y Cyfarfod Llawn, yn ogystal â chwestiynau’r Senedd, datganiadau barn, grwpiau trawsbleidiol, dogfennau a osodwyd a’r rhan fwyaf o Fusnes arall.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y Trydydd Cynulliad
Mae’r Trydydd Cynulliad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 2007 a mis Mawrth 2011
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Y weithdrefn annilysu
Mae’r weithdrefn annilysu yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud offeryn statudol, ei osod gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 diwrnod (ac eithrio cyfnodau pan fo'r Senedd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i wrthwynebu'r offeryn statudol. Os yw'r Senedd yn gwrthwynebu, caiff yr offeryn statudol ei annilysu, sy'n golygu nad yw'n cael effaith mwyach.
Gweler: Offerynnau statudol Cymreig sy'n ddarostyngedig i’r weithdrefn annilysu
Gweler: Y weithdrefn negyddol
Gweler: Y weithdrefn negyddol ddrafft
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026
Tymor
Y weithdrefn gadarnhaol
Mae'r weithdrefn gadarnhaol yn darparu na all Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (er enghraifft, offeryn statudol) oni fydd y Senedd wedi pasio cynnig i gymeradwyo drafft o'r is-ddeddfwriaeth. Mae'r weithdrefn hon yn aml yn cael ei chadw ar gyfer is-ddeddfwriaeth fwy arwyddocaol. Cyfeirir at y weithdrefn gadarnhaol weithiau fel y weithdrefn gadarnhaol ddrafft.
Yr enw ar y weithdrefn gadarnhaol yw gweithdrefn gymeradwyo'r Senedd ers 1 Ionawr 2026. Rhagor o wybodaeth.
Gweler: Y weithdrefn gymeradwyo
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026
Tymor
Y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’:
Fel rheol, dim ond mewn achosion brys y defnyddir y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’. Gall yr amserlenni amrywio, ond fel rheol mae offeryn statudol o'r math hwn yn cael ei wneud gan un o Weinidogion Cymru ac yn dod i rym bron ar unwaith. Fodd bynnag, rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r offeryn statudol (fel arfer o fewn 28 diwrnod) er mwyn iddo barhau i fod yn gyfraith.
Yr enw ar y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yw gweithdrefn gadarnhau'r Senedd ers 1 Ionawr 2026. Rhagor o wybodaeth.
Gweler: Y weithdrefn gadarnhau
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026
Tymor
Y weithdrefn gadarnhau
Fel rheol, dim ond mewn achosion brys y defnyddir y weithdrefn gadarnhau. Gall yr amserlenni amrywio, ond fel rheol mae offeryn statudol o'r math hwn yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru ac yn dod i rym bron ar unwaith. Fodd bynnag, rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r offeryn statudol (fel arfer o fewn 28 diwrnod) er mwyn iddo barhau i fod yn gyfraith.
Gweler: Offerynnau statudol Cymreig sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhau
Gweler: Y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026
Tymor
Y weithdrefn gymeradwyo
Mae'r weithdrefn gymeradwyo yn darparu na all Gweinidogion Cymru wneud yr offeryn statudol oni fydd y Senedd wedi pasio cynnig i gymeradwyo drafft o'r is-ddeddfwriaeth. Mae'r weithdrefn hon yn aml yn cael ei chadw ar gyfer is-ddeddfwriaeth fwy arwyddocaol.
Gweler: Offerynnau statudol Cymreig sy'n ddarostyngedig i’r weithdrefn gymeradwyo
Gweler: Y weithdrefn gadarnhaol
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026
Tymor
Y weithdrefn negyddol
Mae’r weithdrefn negyddol yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud offeryn statudol, ei osod gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 diwrnod i wrthwynebu'r offeryn statudol. Os yw'r Senedd yn gwrthwynebu’r offeryn, caiff yr offeryn statudol negyddol ei annilysu, sy'n golygu na ellir gwneud dim byd pellach o dan yr offeryn statudol.
Yr enw ar y weithdrefn negyddol yw gweithdrefn annilysu'r Senedd ers 1 Ionawr 2026. Rhagor o wybodaeth.
Gweler: Y weithdrefn annilysu
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026
Tymor
Y weithdrefn negyddol ddrafft
Mae’r weithdrefn negyddol ddrafft yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o’r offeryn statudol gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 diwrnod (ac eithrio cyfnodau pan fo'r Senedd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i benderfynu peidio â chymeradwyo’r offeryn statudol drafft. Os nad yw'r Senedd yn gwneud penderfyniad o'r fath, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud yr offeryn statudol yn gyfraith. Os yw'r Senedd yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r offeryn statudol drafft, ni ellir ei wneud yn gyfraith.
Yr enw ar y weithdrefn negyddol ddrafft yw gweithdrefn annilysu'r Senedd ers 1 Ionawr 2026. Rhagor o wybodaeth.
Gweler: Y weithdrefn negyddol
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026
Tymor
Ymchwiliad
Darn o waith craffu gan un o bwyllgorau’r Senedd yn ymwneud â maes polisi neu bwnc penodol. Bydd pwyllgor fel arfer yn paratoi adroddiad ar ei ymchwiliad, gan gynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Ymgynghoriad
Yn ystod ymgynghoriad, bydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi eu barn am bwnc penodol. Gelir gwneud hyn drwy ofyn i bobl ysgrifennu at y Senedd, yn nodi eu barn am bwnc penodol. Gelwir hyn yn ‘alwad am dystiolaeth’. Mae croeso i unrhyw un ymateb i alwad am dystiolaeth, yn ysgrifenedig, trwy fideo neu ar ffurf sain (rhoi gwybodaeth ysgrifenedig a digidol i bwyllgor).
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Yr Ail Gynulliad
Mae’r Ail Gynulliad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 2003 a mis Ebrill 2007
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Aelod o Lywodraeth y DU yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac ar hyn o bryd mae ganddo sedd yn y Cabinet. Ei rôl yw gweithredu i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ystyried buddiannau Cymru yn llawn pan fydd yn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar Gymru; cynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru a bod yn gyfrifol am sicrhau hynt deddfwriaeth sy’n ymwneud â Chymru yn unig drwy Senedd y DU. Nid yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn Aelod o Senedd Cymru.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024