Rhestr termau

Rhestr termau seneddol

Mynegai A-Y o dermau

Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau

Y

Tymor

Y Brenin

Yng Nghyfansoddiad anysgrifenedig y Deyrnas Unedig, y Frenhines neu’r Brenin yw pennaeth y wladwriaeth. Caiff penderfyniadau i arfer pwerau sofran eu dirprwyo gan y frenhiniaeth, naill ai drwy statud neu drwy gonfensiwn, i weinidogion neu swyddogion y Goron. Gall hyn gynnwys Gweinidogion Cymru ar gyfer cyfreithiau sy'n ymwneud â Chymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 13/01/2023

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Bumed Senedd

Mae’r Bumed Senedd yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 2016 a mis Ebrill 2021.

Yn ystod y Bumed Senedd newidiodd y sefydliad ei enw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, neu’r Senedd, fel y’i gelwir. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gweld pobl yn cyfeirio ato fel y Pumed Cynulliad yn ogystal â’r Bumed Senedd.

Busnes y Bumed Senedd

Diweddarwyd Ddiwethaf 24/05/2021

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y cyntaf i’r felin

System etholiadol sy’n rhoi buddugoliaeth i’r ymgeisydd sy’n ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau. Yn etholiadau’r Senedd, caiff 40 o Aelodau eu hethol i gynrychioli etholaethau drwy gyfrwng y system hon.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Cynulliad Cyntaf

Mae’r Cynulliad Cyntaf yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 1999 a mis Ebrill 2003

Busnes y Cynulliad Cyntaf

Diweddarwyd Ddiwethaf 24/05/2021

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Chweched Senedd

Mae'r Chweched Senedd yn cwmpasu'r cyfnod o amser o fis Mai 2021 ymlaen.

Cynhelir etholiadau nesaf y Senedd ym mis Mai 2026.

Diweddarwyd Ddiwethaf 24/05/2021

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Ar 1 Ebrill 2018, disodlwyd y Dreth Dirlenwi yng Nghymru gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT). Telir y Dreth Gwarediadau Tirlenwi pan gaiff gwastraff ei waredu mewn safleoedd tirlenwi. Mae’n cael ei chodi yn ôl pwysau’r gwastraff. Mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei gweinyddu gan Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae'n daladwy gan weithredwyr tirlenwi yng Nghymru. Mae'r cyfraddau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru ac yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, disodlwyd Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir (LTT). Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn dreth yr ydych yn ei thalu pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl / dibreswyl neu ddarn o dir yng Nghymru dros bris penodol. Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chasglu gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). O dan gyfundrefn y Dreth Trafodiadau Tir, mae cyfraddau a bandiau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. Mae'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru ac yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Pedwerydd Cynulliad

Mae’r Pedwerydd Cynulliad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 2011 a mis Ebrill 2016

Busnes y Pedwerydd Cynulliad

Diweddarwyd Ddiwethaf 24/05/2021

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Senedd

Yr adeilad cyhoeddus ym Mae Caerdydd lle cynhelir busnes y Senedd. Mae gan bobl Cymru fynediad am ddim i'r Senedd a'r oriel gyhoeddus, lle gallant arsylwi ar Aelodau wrth eu gwaith.

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Senedd

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Senedd Ieuenctid

60 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sydd wedi'u hethol i gynrychioli pobl ifanc yng Nghymru

Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Senedd Ieuenctid Cymru

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Swyddfa Gyflwyno

Y Swyddfa Gyflwyno sy’n gyfrifol am roi cyngor diduedd i Aelodau’r Senedd ynghylch gweithdrefnau’n ymwneud â Busnes y Senedd, ac ynghylch a yw Busnes y Senedd yn dderbyniol. Mae hyn yn cynnwys pob agwedd ar Fusnes y Senedd yn y Cyfarfod Llawn, yn ogystal â chwestiynau’r Senedd, datganiadau barn, grwpiau trawsbleidiol, dogfennau a osodwyd a’r rhan fwyaf o Fusnes arall.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y Trydydd Cynulliad

Mae’r Trydydd Cynulliad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 2007 a mis Mawrth 2011

Busnes y Trydydd Cynulliad

Diweddarwyd Ddiwethaf 24/05/2021

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y weithdrefn gadarnhaol

Mae'r weithdrefn gadarnhaol yn darparu na all Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (er enghraifft, offeryn statudol) oni fydd y Senedd wedi pasio cynnig i gymeradwyo drafft o'r is-ddeddfwriaeth. Mae'r weithdrefn hon yn aml yn cael ei chadw ar gyfer is-ddeddfwriaeth fwy arwyddocaol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’:

Fel rheol, dim ond mewn achosion brys y defnyddir y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’. Er y gall yr amserlenni dan sylw amrywio, fel rheol, mae offeryn statudol o'r math hwn yn cael ei wneud gan un o Weinidogion Cymru ac yn dod i rym bron ar unwaith. Fodd bynnag, rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r offeryn statudol (fel arfer o fewn 28 diwrnod) er mwyn i’r offeryn barhau i fod yn gyfraith.

Diweddarwyd Ddiwethaf 20/05/2021

Is-ddeddfwriaeth

Chwilio am y term hwn

Tymor

Y weithdrefn negyddol

Mae’r weithdrefn negyddol yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud offeryn statudol, osod yr offeryn hwnnw gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 diwrnod i wrthwynebu'r offeryn statudol. Os yw'r Senedd yn gwrthwynebu’r offeryn, mae’r offeryn statudol negyddol hwnnw’n cael ei ddirymu, sy'n golygu na ellir gwneud dim byd pellach o dan yr offeryn statudol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 20/05/2021

Is-ddeddfwriaeth​

Chwilio am y term hwn

Tymor

Ymchwiliad

Darn o waith craffu gan un o bwyllgorau’r Senedd yn ymwneud â maes polisi neu bwnc penodol. Bydd pwyllgor fel arfer yn paratoi adroddiad ar ei ymchwiliad, gan gynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn

Tymor

Ymgynghoriad

Yn ystod ymgynghoriad, bydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi eu barn am bwnc penodol. Gelir gwneud hyn drwy ofyn i bobl ysgrifennu at y Senedd, yn nodi eu barn am bwnc penodol. Gelwir hyn yn ‘alwad am dystiolaeth’. Mae croeso i unrhyw un ymateb i alwad am dystiolaeth, yn ysgrifenedig, trwy fideo neu ar ffurf sain (rhoi gwybodaeth ysgrifenedig a digidol i bwyllgor).

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2023

Ymgynghoriadau sydd ar agor

Chwilio am y term hwn

Tymor

Yr Ail Gynulliad

Mae’r Ail Gynulliad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Mai 2003 a mis Ebrill 2007

Busnes yr Ail Gynulliad

Diweddarwyd Ddiwethaf 24/05/2021

Chwilio am y term hwn

Tymor

Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Aelod o Lywodraeth y DU yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac ar hyn o bryd mae ganddo sedd yn y Cabinet. Ei rôl yw gweithredu i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ystyried buddiannau Cymru yn llawn pan fydd yn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar Gymru; cynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru a bod yn gyfrifol am sicrhau hynt deddfwriaeth sy’n ymwneud â Chymru yn unig drwy Senedd y DU. Nid yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn Aelod o Senedd Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020

Chwilio am y term hwn