10 o ffeithiau ar gyfer 10 mlynedd o ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn dathlu deng mlwyddiant eleni. Dathlwyd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU am y tro cyntaf yn 1987, mae hefyd yn nodi 30 mlwyddiant eleni.

Map cy Bob mis Hydref yn y DU, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn dathlu llwyddiannau pobl dduon a’u cyfraniadau at ddatblygiad cymdeithas; technoleg; yr economi; y celfyddydau a diwylliant ym Mhrydain. Darllenwch fwy am hanes Mis Hanes Pobl Dduon. Wrth ddathlu 10 mlynedd, dyma ichi 10 o ffeithiau nad oedd yn wybyddus i chi o bosibl: 1. Ym 1987, yn Llundain yn unig y dathlwyd BHM, ond mae bellach yn ddigwyddiad ledled y DU gyda dros 6,000 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y DU bob mis Hydref. Mae Canada ac America yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon ym mis Chwefror. 2. Cafodd y canlynol eu dyfeisio gan bobl o dras Du a Lleiafrifoedd Ethnig: Miniwr pensiliau, system pŵer ceir troli, goleuadau traffig cyntaf, y tryc ysgubo, y rhaw lwch fach, y drws codi awtomatig, y sychwr dillad cyntaf, ysgol ddianc rhag tân, y diffoddwr tân, y ffilament carbon ar gyfer y bwlb, y bag plasma gwaed, y bwrdd smwddio, y brwsh gwallt, y sythwr gwallt, beic tri olwyn a mwy. 3. Daeth Betty Campbell yn brifathrawes ddu gyntaf Cymru yn y 1970au, gyda’i swydd yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown, Caerdydd.

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=N-9Ct_Gvhes]

4. Mae gan Gymru un o’r cymunedau aml-ethnig hynaf yn y DU, sef yn ardal Tiger Bay yng Nghaerdydd. Setlodd morwyr a gweithwyr o dros 50 o wledydd yma. 5. Ganwyd Leonora Brito yng Nghaerdydd, cafodd ei magu a’i dylanwadu gan gymuned amlddiwylliannol Tiger Bay, a cheisiodd ail-greu gwerthoedd y gymdeithas honno yn ei hygrifennu. Roedd ei gwaith yn cynnig golwg unigryw ar y gymdeithas Gymreig Affro-Caribi, a gafodd ei thangynrychioli mewn ysgrifennu am Gymru nes i’w gwaith hi ymddangos. Enillodd ei stori ‘Dat’s Love’ gystadleuaeth stori fer Rhys Davies yn 1991. Bu farw yn 2007. 6. Mohammed Asghar (Oscar) AC oedd cynghorydd Mwslimaidd cyntaf Cymru, yn cynrychioli ward Victoria yng Nghyngor Dinas Casnewydd yn 2004. Daeth yn aelod lleiafrifol ethnig a Mwslimaidd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan etholwyd ef yn 2007. 7. Adroddodd cyfrifiad 2011 fod 18,276 o bobl Affricanaidd yng Nghymru, sy’n gyfystyr â 0.6 y cant o boblogaeth Cymru. 8. Yn 2008 daeth Vaughan Gething AC yn Llywydd y TUC ieuengaf yng Nghymru, ac y person du cyntaf yn y rôl. 9. Daeth Eddie Parris, a aned ym Mhwllmeurig ger Cas-gwent, y chwaraewr pêl-droed du cyntaf i chwarae i Gymru, gan chwarae ei unig gêm ryngwladol yn erbyn Gogledd Iwerddon ym Belfast ym 1931 - bron i hanner canrif cyn i chwaraewr rhyngwladol du cyntaf Lloegr ennill cap rhyngwladol. 10. Mae’r barnwr Ray Singh, CBE, Cadeirydd Cyngor Hil Cymru, bellach wedi ymddeol fel Barnwr Rhanbarth. Ef oedd y barnwr cyntaf o gefndir ethnig lleiafrifol i eistedd ar y fainc yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon ledled Cymru, ewch i wefan Mis Hanes Pobl Dduon.