10 rheswm i ymweld â'r Senedd yr haf hwn

Cyhoeddwyd 21/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Chwilio am rywbeth i'w wneud y penwythnos hwn? Beth am fynd i Fae Caerdydd i ymweld â'r Senedd?

O wleidyddiaeth i bensaernïaeth, o gelf i gynhyrchion Cymreig, mae gan y Senedd rywbeth at ddant pawb.

1. Y bensaernïaeth a'r dyluniad sydd wedi ennill gwobrau

Mae'r Senedd yn wirioneddol unigryw. Mae'n well edrych ar y twmffat a'r canopi enfawr o bren cedrwydd Canada cynaliadwy o'r tu mewn i'r adeilad, lle gallwch archwilio ar ddwy lefel.

2. Archwilio llwybr y Senedd

Ydych chi'n chwilio am weithgareddau difyr, rhad ac am ddim i blant i'w mwynhau'r penwythnos hwn? Gall fforwyr bach deithio drwy'r canrifoedd ar ein llwybrau i blant.  Chwiliwch y Senedd a chasglwch y cliwiau - a dysgwch lawer o ffeithiau diddorol ar hyd y ffordd. Rhowch eich cerdyn wedi'i orffen yn ôl i'r Dderbynfa a chewch gynnig yn y raffl i ennill gwobr!

3. Gweld beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni

Dros yr haf mae ein teithiau tywys arferol yn cynnwys mynediad unigryw i ardaloedd nad ydynt fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Bydd ein tywyswyr cyfeillgar, arbenigol yn mynd â chi ar daith drwy hanes y Bae i bensaernïaeth y Senedd a Chymru heddiw.
Gorau oll, mae'r teithiau am ddim ac yn rhedeg yn ddyddiol am 11.00 / 14.00 / 15.00

4. Mwynhau blas o Gymru yn ein caffi a'n siop

Mae diwrnod o archwilio'r Bae yn galw am baned a chacen yn ein caffi. Dewiswch o amrywiaeth o luniaeth a mwynhewch olygfeydd hyfryd o'r Bae drwy ffenestri enfawr y Senedd. Wrth ymyl y caffi mae'r siop, sy'n cadw cynnyrch, llyfrau ac anrhegion Cymreig.

5. Edrych ar gelf

Bydd y Senedd yn cynnal arddangosfeydd newydd gwych drwy gydol yr Haf.

Gallech greu eich cerdyn post eich hun o Gymru wedi'i ysbrydoli gan osodiad enfawr Steve Knapik MBE a'i bostio yn ein blwch post.
Dysgwch am hanes Bae Caerdydd drwy hen luniau du a gwyn Jack K Neale o longau yn hwylio allan o Ddociau Bute, gan gludo glo De Cymru yn ôl i Ffrainc.
Neu meddyliwch am yr hyn y byddech chi'n ei ychwanegu at Drawn Together, prosiect cenedlaethol a oedd yn gwahodd pobl i gymryd pum munud i dynnu llun rhywbeth y gallent ei weld. Cyfrannodd dros 4,500 o bobl gyda lluniau wedi dod o bob sir yng Nghymru.

6. Y tîm diogelwch mwyaf cyfeillgar yng Nghaerdydd

Fel gydag unrhyw adeilad seneddol, mae'n ofynnol i bob ymwelydd fynd drwy broses ddiogelwch fel yn y maes awyr ar ei ffordd i mewn i'r Senedd. Fodd bynnag, mae ein tîm diogelwch yn gwneud eu gorau i greu argraff gyntaf dda. Dyma ddetholiad bach iawn o'r nifer fawr o sylwadau a gawsom amdanynt ar Trip Advisor:

“Wedi gorfod mynd drwy broses ddiogelwch, ond roedden nhw y mwyaf cyfeillgar imi ddod ar eu traws (Heathrow, cymerwch sylw)”
Celticfire

“Yr adeilad llywodraeth mwyaf cyfeillgar imi ymweld ag ef erioed! Adeilad hardd a diddorol gyda'r staff mwyaf cyfeillgar imi ddod ar eu traws erioed. Roedd hyd yn oed y tîm diogelwch yn hyfryd, gan sicrhau trosglwyddiad hawdd, diogel i'r adeilad.”
Gillyflower58


“Proses ddiogelwch fel yn y maes awyr yn cael ei chyflawni gan staff hapus a chyfeillgar iawn.”
138Paul138

Wnaethom ni sôn bod gennym hefyd Dystysgrif Ragoriaeth Trip Advisor?

7. Mwynhau dyluniad amgylcheddol y Senedd

Poeth ym Mae Caerdydd? Mae dyluniad unigryw y Senedd yn ei chadw'n hyfryd ac yn oer ar ddyddiau'r haf. Mae ei ffenestri yn agor ac yn cau'n awtomatig er mwyn helpu i reoleiddio'r tymheredd y tu mewn.

8. Helpu ni i ddathlu 20 mlynedd

Eleni rydym yn dathlu 20 mlynedd o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhannwch eich dyheadau ar gyfer Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf ar ein bwrdd.

9. Mae gennym Lego®, Duplo® a gweithgareddau ar gyfer y rhai bach

https://twitter.com/CynulliadCymru/status/1159454911416930306

Os ydych chi'n teimlo'n ysbrydoledig ar ôl gweld dreigiau, tywysogesau a dewiniaid Bright Bricks, dewch draw i ychwanegu eich creadigaeth Lego® eich hun i'n map o Gymru. Drwy gydol y gwyliau mae gennym hefyd daflenni lliwio a chrefftau ar gael i ddiddanu'r rhai bach wrth ichi fwynhau egwyl fach.

10. Mae am ddim!

A faint mae'n ei gostio i gael mynediad at hyn i gyd, fe'ch clywaf yn gofyn? Dim byd. Mae'r Senedd yn adeilad cyhoeddus - eich adeilad chi - ac rydyn ni ar agor 7 diwrnod yr wythnos. P'un a ydych chi'n ymweld â Chaerdydd am y penwythnos neu'n rhywun lleol nad ydych erioed wedi mentro y tu mewn, ewch i lawr i'r Senedd yr haf hwn wrth inni ddathlu 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.