20 Mlynedd ers agor adeilad y Senedd: Y tu mewn i Senedd Cymru

Cyhoeddwyd 24/02/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/02/2026

Pan agorodd adeilad y Senedd ei ddrysau am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006, daeth yn gartref newydd i ddemocratiaeth Cymru, a’r adeilad seneddol pwrpasol cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru ers dros 600 mlynedd.

Ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae'r adeilad yn parhau yn symbol o ddemocratiaeth agored, fodern a chynaliadwy. Mae'r flwyddyn hon o nodi ugain mlynedd o fodolaeth adeilad y Senedd yn digwydd cyd-daro ag Etholiad ar 7 Mai, sy’n rhoi cyfle i bobl Cymru gyfrannu at lunio dyfodol eu cymunedau.

 

Mae'r ddelwedd yn dangos dau weithiwr adeiladu yn gwisgo vestiau llachar a hetiau caled yn defnyddio peiriannau yn y blaen. Y tu ôl iddynt mae ffrâm dur adeilad y Senedd pan oedd yn cael ei adeiladu, dan awyr las.
Y Senedd yn cael ei hadeiladu, 2005-2006

Democratiaeth yn gynhenid yn y dylunio

Dyluniwyd y Senedd gan Bartneriaeth Richard Rogers (Rogers Stirk Harbour + Partners bellach), a ddewiswyd drwy gystadleuaeth bensaernïol fyd-eang. 

Tryloywder sydd i’w weld mor amlwg

Mae llawer o wedd tu allan yr adeilad wedi'i wneud o wydr, sy’n caniatáu i bobl edrych yn uniongyrchol i galon democratiaeth. Mae digonedd o fannau cyhoeddus, agored ac amlwg yn yr adeilad, sy’n adlewyrchu’r modd y mae’r Senedd yn gwasanaethu ac yn croesawu pobl Cymru.

Grym gan y bobl 

Y tu mewn, mae'r oriel gyhoeddus uwchlaw’r Siambr (sef y siambr ddadlau), ac mae hyn yn symbol bod y grym democrataidd yn nwylo pobl Cymru.

Yn syml: y cyhoedd, yn llythrennol, sydd â'r sedd uchaf yn y Senedd.

 

Yr olygfa yn oriel gyhoeddus y Senedd o’r siambr drafod (y Siambr) sydd newydd gael ei hailwampio, Chwefror 2026
Yr olygfa yn oriel gyhoeddus y Senedd o’r siambr drafod (y Siambr) sydd newydd gael ei hailwampio, Chwefror 2026

Meddwl am gynaliadwyedd  – cyn bod hyn yn rhan annatod o bob cynllun

Gosododd y Senedd safon newydd ar gyfer adeiladau cyhoeddus cynaliadwy pan agorodd yn 2006. Roedd llawer o nodweddion sydd bellach yn cael eu hystyried yn enghreifftiau o 'ddylunio gwyrdd modern' eisoes wedi'u hadeiladu ynddo 20 mlynedd yn ôl.

  • Golau naturiol, yn gynhenid yn y dyluniad: Mae waliau gwydrog mawr, arwynebeddau gwyn a'r pigwn tebyg i ddrych (conigol) ar ben y twndis yn adlewyrchu golau dydd i’r mannau cyhoeddus a'r Siambr, ac mae hyn yn lleihau'r angen am oleuadau artiffisial. Mae synwyryddion yn sicrhau mai dim ond pan fydd eu hangen y bydd goleuadau'n dod ymlaen.
  • Awyru naturiol  Mae cwfl to chwe metr o hyd yn tynnu aer cynnes i fyny drwy'r twndis canolog, tra bod ffenestri awtomataidd yn dod ag aer ffres i mewn – gan leihau'r ddibyniaeth ar aerdymheru sy'n ddwys o ran defnyddio ynni. Mae cwfl to sy'n cylchdroi yn tynnu aer cynnes i fyny drwy'r system aerdymheru dwys.
  • Gwresogi ac oeri o ffynhonnell ddaear: Mae 27 o dyllau turio, pob un tua 100 metr o ddyfnder, yn helpu i gynhesu'r adeilad yn y gaeaf a'i oeri yn yr haf drwy system yn y llawr.
  • Gwresogi biomas: Mae boeler biomas sy'n defnyddio sglodion pren o ffynonellau cynaliadwy yn darparu ffynhonnell wres carbon isel.
  • Rhwydwaith gwres newydd: Cyn bo hir bydd y system wresogi’n symud i Rwydwaith Gwres Caerdydd, sy’n defnyddio gwres dros ben o gyfleuster ynni cyfagos. Mae hon yn enghraifft o’r arloesedd ddiweddaraf o ran technoleg carbon isel. 
  • Casglu dŵr glaw: Caiff dŵr glaw o'r to ei gasglu a'i ailddefnyddio ar gyfer fflysio a glanhau. Defnyddir yr hyn sy'n cyfateb i tua 100,000 gwydraid o ddŵr, sydd yn wych, ac yn lleihau'r galw ar y prif gyflenwad.

Gwnaed y penderfyniadau hyn, ynghyd â defnyddio deunyddiau hirhoedlog, fel llechi a choncrit Cymreig, i leihau effaith amgylcheddol, lleihau gwastraff a lleihau gwaith cynnal a chadw dros oes yr adeilad.

 

Mae’r ddelwedd yn dangos twndis pren y Senedd a thri phaentiad ar banel arddangos gwyn yn ardal yr Oriel.
Twndis eiconig y Senedd


Siambr newydd ar gyfer Senedd newydd

O 2026 ymlaen, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn lle 60.

Bydd hyn yn rhoi rhagor o allu i'r Senedd herio Llywodraeth Cymru ar faterion pwysig fel gwasanaethau iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Ystyr hyn yw y bydd gan eich cymuned lais cryfach mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

I baratoi ar gyfer y newidiadau hyn, mae'r Siambr wedi'i ailgynllunio gyda:

  • hygyrchedd gwell
  • offer digidol a darlledu gwell
  • profiad gwylio cyhoeddus gwell

Gwnaed y gwaith uwchraddio gan ddangos ymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd gan ailddefnyddio cymaint â phosibl o'r Siambr wreiddiol, a gwneud yn fawr o gyfleoedd i ddefnyddio deunyddiau Cymreig a chadwynni cyflenwi Cymreig.

Mae'r uwchraddiadau hyn yn sicrhau y gall pobl barhau i ddilyn dadleuon democrataidd yn glir ac yn hawdd, boed hynny wrth ymweld â’r Senedd wyneb yn wyneb neu wrth wylio ar-lein.

Ymweld â'r Senedd

Mae'r Senedd yn rhad ac am ddim i ymweld ag ef ac mae croeso i bawb.

P'un a oes gennych ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, pensaernïaeth, cynaliadwyedd Cymru neu os ydych chi eisiau cael gweld adeilad eiconig sy'n ganolog ym Mae Caerdydd, mae digon i'w fwynhau - o deithiau tywys ac arddangosfeydd i weithgareddau sy'n addas i deuluoedd. 

Cynlluniwch eich ymweliad heddiw a dathlwch 20 mlwyddiant cartref democratiaeth Cymru.

 

 

Siambr Newydd 2026
Siambr newydd, 2026