A yw’r system cyfiawnder troseddol yn methu yn achos menywod Cymru?

Cyhoeddwyd 24/05/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

A yw menywod Cymru yn cael digon o gymorth i aros allan o’r carchar?

Y realiti llym i fenywod Cymru yn y system cyfiawnder troseddol yw eu bod yn rhy bell oddi wrth eu teuluoedd – does dim carchardai i fenywod yng Nghymru – ac nid oes ganddynt le i fyw bob amser pan gânt eu rhyddhau.

Clywodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd gan fenywod yn y system cyfiawnder troseddol yn uniongyrchol.  

Gadewch i ni edrych yn fanylach ar y problemau sy’n eu hwynebu.

 


A yw dedfrydau byrrach yn gweithio i fenywod Cymru a’n cymunedau?

Wyddoch chi fod 56.1% o fenywod sy’n bwrw dedfryd o garchar yn aildroseddu cyn pen blwyddyn.

Mae’r ganran yn codi i 70.7% yn achos menywod a ryddhawyd ar ôl bwrw dedfryd o lai na 12 mis. 

Beth sy'n arwain at gyfraddau uchel o aildroseddu? Dedfrydau byr, rhai yn para cyn lleied ag wythnos, a chefnogaeth wael.

“Rwy’n teimlo y dylen ni, fel carcharorion, gael mwy o wasanaethau . . .Byddaf yn meddwl yn aml, pam na fedra i fynd yn ôl? Roeddwn i'n ddiogel yno, roedd gen i bobl o'm cwmpas, roedd fy iechyd meddwl yn well.” - aelod o grŵp ffocws.

Beth y gellid ei wneud?

Gellid anfon menywod i’r Ganolfan Breswyl arfaethedig i Fenywod yn Abertawe yn lle eu hanfon i’r carchar. Byddai’r Ganolfan yn gallu darparu lle i 48 o fenywod bob blwyddyn. Byddai’r rhain, fel eraill, yn cael dedfryd o garchar am 12 mis neu lai. 

Gofynnodd y Pwyllgor am esboniad ychwanegol o’r modd y bydd y Ganolfan yn gweithredu’n ymarferol os caiff ei chymeradwyo.

 


Effaith ddinistriol ar deuluoedd

Wyddoch chi nad oes yr un carchar i fenywod yng Nghymru?

Mae’n rhaid i fenywod o Gymru fwrw eu dedfryd yn Lloegr – 100 milltir o’u cartref, ar gyfartaledd. Mae hyn wedi cael effaith ddinistriol ar deuluoedd, yn enwedig plant. Mae’r heriau’n cynnwys:

  • y pellter rhwng mamau a’u plant
  • costau teithio
  • y pwysau o ran amser ar ofalwyr
  • y dulliau cyfathrebu sydd ar gael

Cynlluniwyd ‘ymweliadau porffor’, sef math o alwad fideo, i helpu menywod a’u teuluoedd i gadw cysylltiad â’i gilydd yn ystod y pandemig, ond nid yw’r rhain yn llwyddiannus bob amser. 

“Roedd yn ofnadwy. Roedd y signal yn ofnadwy a byddai'n rhewi’n aml. Byddai'n peri gofid i lawer o’r merched. Roedd rhai ohonyn nhw eisiau gweld eu plant a fyddai ganddyn nhw ddim cysylltiad.” - aelod o grŵp ffocws.

Beth y gellid ei wneud?

Dylai Llywodraeth Cymru werthuso prosiect ‘Ymweld â Mam’, meddai’r Pwyllgor. Mae hwn yn helpu plant Cymru i ymweld â’u mamau yn y carchar.  Cafodd y prosiect ei ganmol gan rai a gyfrannodd at ymchwiliad y Pwyllgor, a ddywedodd ei fod wedi helpu i ailadeiladu’r berthynas rhwng aelodau’r teulu.

 


Dim digon o leoedd diogel i fyw

Ychydig iawn o ddewis gaiff menywod pan drefnir lle iddynt fyw ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar.

“Cael eich taflu at y siarcod” yw sut y disgrifiodd un fenyw ei phrofiad. Dywedodd nifer o fenywod eu bod yn pryderu am eu trefniadau byw, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed.

Clywodd y Pwyllgor y byddai’r menywod naill ai’n ddigartref neu’n cael eu rhoi mewn llety anaddas ar ôl cael eu rhyddhau, gan gynnwys cael eu rhoi gyda phobl a allai eu cam-drin.

“Roeddwn i’n adnabod merch a ddaeth i’r carchar ac a oedd yn awyddus i gael dedfryd hirach gan ei bod yn byw ar y stryd.

Cyflawnodd hunanladdiad yn y diwedd. Gadawodd rai o staff y carchar gan eu bod mor anhapus â’r sefyllfa. Ddylai’r ferch honno ddim fod wedi mynd i’r carchar – roedd angen cymorth iechyd meddwl arni.”  - aelod o grŵp ffocws.

Beth y gellid ei wneud?

Mae angen gwneud mwy i wneud yn siŵr nad yw menywod yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd peryglus neu sefyllfaoedd a allai eu harwain i aildroseddu. I wneud yn siŵr bod gan fenywod le addas i fyw, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i roi dewis gwell iddynt. 

 


Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am i gyfiawnder i fenywod gael ei ddatganoli

San Steffan a Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gyfiawnder a charchardai.

I ganiatáu i Gymru wneud ei benderfyniadau ei hun, mae’r Pwyllgor yn galw am i’r cyfrifoldeb dros fenywod yn y system cyfiawnder troseddol gael ei ddatganoli. Felly, gall Llywodraeth Cymru:

  • leihau nifer y menywod sy'n mynd i'r carchar
  • cyflwyno dulliau dedfrydu effeithiol
  • helpu i adsefydlu menywod.

 


Mae Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd yn gweithio gyda phobl a sefydliadau ar hyd a lled Cymru. Maent yn clywed am brofiadau bywyd pobl mewn perthynas â materion sy'n effeithio arnynt.

Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, trefnodd y tîm grwpiau ffocws ac ymweliadau â menywod o Gymru a oedd â phrofiadau gwahanol o’r system cyfiawnder troseddol.

Roedd y grwpiau ffocws yn cynnwys y canlynol, ond nid dim ond y rhain:

  • menywod sydd yn y carchar ar hyn o bryd a menywod a ryddhawyd;
  • troseddwyr mynych;
  • mamau;
  • menywod â phroblemau camddefnyddio sylweddau;
  • menywod a oedd yn y carchar, neu wedi cwblhau dedfryd o garchar am gyfnodau amrywiol;

Clywodd y Pwyllgor am eu profiadau didwyll, a gyfrannodd at yr adroddiad. 

 

Dilynwch yr ymchwiliad mewn amser real