Cyhoeddwyd 18/01/2017
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Mae gwella ymgysylltiad â phobl Cymru yn flaenoriaeth fawr i ni yn y Cynulliad. Rydym wedi bod yn gwneud hyn fwyfwy drwy gynnwys pobl mewn trafodaethau gyda phwyllgorau'r Cynulliad ar faterion sy’n agos at eu calon.
Mae hyn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu pwyllgorau'r Cynulliad i graffu ar waith Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn edrych ar ba effaith y mae’r prosiectau cyfranogi hyn yn ei chael ar y dinasyddion hynny sy'n cymryd rhan.
Fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
i Ardrethi Busnes, cymerodd busnesau bach o wahanol rannau o Gymru ran mewn cyfweliadau fideo gyda swyddogion allgymorth. Dangoswyd eu cyfraniadau i Aelodau'r Cynulliad a bu o gymorth i lywio gwaith craffu’r Pwyllgor.
[youtube https://www.youtube.com/watch?v=8d5q-NaaeeQ]
Ar ôl cymryd rhan yn y cyfweliad fideo, a chael y wybodaeth ddiweddaraf gan staff y Cynulliad am ganlyniadau eu cyfraniad, gofynnwyd i’r cyfranogwyr a oeddent yn teimlo eu bod wedi cael y cyfle i fynegi eu barn, a phe byddent yn cael y cyfle, a fyddent yn cymryd rhan mewn gweithgaredd fel hyn eto.
Gofynnwyd iddynt hefyd ddatgan faint yr oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiadau canlynol cyn iddynt gymryd rhan, a sut yr oeddent yn teimlo am yr un datganiadau ar ôl cymryd rhan:
- Nid oes gan bobl fel fi lais yn y penderfyniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu gwneud
- Mae gennyf yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth
- Yr wyf yn gwybod pa rôl y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn
- Yr wyf yn rhoi llawer o sylw i wleidyddiaeth Cymru
- Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hanfodol i’n democratiaeth
- Yr wyf yn gwybod pa benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
- Byddaf yn pleidleisio mewn etholiad sydd ar y gweill gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Hwn oedd y tro cyntaf inni fesur effaith cymryd rhan yn un o'n mentrau ymgysylltu o safbwynt y cyfranogwyr. Mae'r canlyniadau wedi dangos inni y byddai'r holl gyfranogwyr yn cymryd rhan eto pe byddent yn cael y cyfle, ac roeddent yn teimlo eu bod wedi cael y cyfle i fynegi eu barn. Roedd y newid mwyaf arwyddocaol mewn canfyddiad wrth gymharu’r ymatebion cyn ac ar ôl cymryd rhan yn amlwg gyda'r datganiadau canlynol:
- 'Nid oes gan bobl fel fi lais yn y penderfyniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu gwneud': nid oedd dim un o'r cyfranogwyr yn anghytuno â'r datganiad hwn cyn cymryd rhan, o'i gymharu â 67% a oedd yn anghytuno â’r datganiad ar ôl cymryd rhan.
- 'Mae gennyf yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth': roedd hanner y cyfranogwyr yn anghytuno â'r datganiad hwn cyn cymryd rhan, tra roedd 88% yn cytuno â'r datganiad hwn ar ôl cymryd rhan.
Ein bwriad yw ceisio casglu’r math hwn o wybodaeth ar gyfer yr ystod o wahanol fentrau ymgysylltu yr ydym yn eu darparu yma, er mwyn inni ddeall eu heffeithiolrwydd a gwella ein cynnig yn y dyfodol.
Darllenwch fwy: Soniwyd am ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn neges yn ddiweddar gan Kevin Davies a Cristina Leston-Bandeira ar y blog
Parliaments and Legislatures. [Saesneg yn unig]
Mae
Kevin Davies yn Uwch Reolwr Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y diweddaraf am y Cynulliad - dilynwch un o'm
sianelau cyfryngau cymdeithasol.
Pa mor hawdd yw hi i gyfrannu at ein gwaith? Pa newidiadau y gallem eu gwneud i annog mwy o bobl i gymryd mwy o ran?
Rydym yn cynnal
arolwg anghenion defnyddwyr tan
ddydd Gwener 10 Chwefror 2017 a hoffem glywed eich syniadau.