Fi yw Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd. Ym mis Tachwedd 2021, cefais y fraint o fynd i CoP26 yn Glasgow i ymuno â'r ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Fe wnaeth y digwyddiad hanesyddol hwn dynnu sylw at y realiti cas y mae pob rhan o’r byd yn ei wynebu yn sgil newid hinsawdd, a’r angen am newid ysgubol a gweithredu ar frys.
Dylai unigolion a sefydliadau fod yn atebol am eu haddewidion. Mae hyn yn rhywbeth a gafodd ei archwilio gan nifer o siaradwyr drwy gydol y gynhadledd, fel y cafodd y cysyniad o 'ddyfodol mwy gwyrdd'.
Fe wnaeth cyn Is-arlywydd yr UDA, Al Gore, ddadlau, oherwydd y bydd y galw am newid yn tyfu ac yn tyfu ac yn tyfu, bod yn rhaid i ni hoelio ein sylw ar y cymunedau sydd wedi dioddef fwyaf, a deall y cysylltiadau rhwng pob rhan o’n byd.
Mae'r galw hwn am newid yn parhau i dyfu yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn sbarduno gweithredu ar unwaith ledled y byd. Mae yna gymunedau yng Nghymru sydd wedi dioddef yn fawr o ganlyniad i'r argyfwng hinsawdd, yn enwedig y rheini sydd wedi dioddef llifogydd difrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rwy'n credu bod llawer mwy y gall llywodraethau ei wneud o hyd o ran gweithio ar y cyd fel bod modd canfod atebion i'r materion hyn a'u rhoi ar waith.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae materion newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio wedi dod yn fwyfwy pwysig i waith Pwyllgorau'r Senedd.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019. Cyllideb y llynedd (2021-21) oedd cyllideb gyntaf Llywodraeth Cymru ers datgan yr argyfwng ac roedd yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf o £140 miliwn i gefnogi’r agenda datgarboneiddio.
Fe wnaeth y gyllideb amlinellu’r meysydd craidd y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddynt yng nghyd-destun adeiladu dyfodol mwy gwyrdd, gan gynnwys: tai, mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac ail-fuddsoddi mewn canol trefi.
Y llynedd yn ystod ei waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, gwnaeth y Pwyllgor Cyllid blaenorol yr argymhellion a ganlyn mewn perthynas â newid hinsawdd a datgarboneiddio:
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu datblygu asesiad cynhwysfawr o effaith carbon ei phenderfyniadau gwariant ac yn ystyried sut gall oresgyn y cyfyngiadau a nodwyd.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn dangos sut mae wedi newid ei hagwedd tuag at wariant ar yr argyfwng hinsawdd yng ngoleuni’r pandemig a sut mae’n bwriadu cynnal yr hyblygrwydd i addasu i newidiadau ymddygiad wrth gyflawni ei hamcan o adeiladu ‘dyfodol mwy gwyrdd’.
Yn fuan, bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Mae angen i gyllidebu ar gyfer newid hinsawdd fod yn amcan hirdymor.
Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir sut mae'r agenda newid hinsawdd a datgarboneiddio yn cael ei phrif ffrydio ym mhroses y gyllideb, a bydd y Pwyllgor yn sicrhau bod penderfyniadau a blaenoriaethau cyllidebol y Gweinidog yn cael eu dwyn i gyfrif ar faterion o'r fath.
Yn y pen draw, efallai mai'r elfen bwysicaf a ddysgais i yn y gynhadledd oedd yr elfen o obaith. Y gobaith y gall pethau fod yn well, y gobaith y gall pethau ddigwydd a’r gobaith y gallwn ni wneud rhywbeth am y trywydd rydym yn ymddangos i fod yn ei ddilyn.
Mae'n hanfodol ein bod yn troi'r gobaith hwn yn ysbrydoliaeth, a'r ysbrydoliaeth honno'n weithredu.
Mae'r gyllideb yn gyfle i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac, fel Pwyllgor, edrychwn ymlaen at weld sut mae'r ystyriaethau hyn yn dylanwadu ac yn llywio penderfyniadau polisi a gwariant.
Gallwch ddilyn gwaith y Pwyllgor Cyllid yma.