Beth am ddathlu dengmlwyddiant y Senedd gyda the prynhawn
Cyhoeddwyd 28/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Mae teithiau tywys a golygfeydd eithriadol, a bellach, te prynhawn hefyd ar gael i’w mwynhau yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos, ac mae ei dyluniad unigryw a’i phensaernïaeth anhygoel yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, ac yn 2015 dyfarnwyd Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor i’r adeilad.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2016 dathlodd yr adeilad ei ddengmlwyddiant, ac fel rhan o’r dathliadau parhaus rydym nawr yn cynnig te prynhawn i ymwelwyr.
Am £14.95 y pen gallwch fwynhau prynhawn yn ymlacio yng nghaffi’r Oriel, yn sipian te Cymreig ac yn bwyta sgons ffres, brechdanau bach a theisennau. Bydd nifer o fyrddau ar y balconi yn cael eu cadw i bobl sy’n cael te prynhawn yn unig, fel y gallwch fwynhau’r olygfa ragorol beth bynnag fo’r tywydd.
I ddathlu degfed pen-blwydd y Senedd, am yr haf hwn yn unig, bydd mwg teithio y Senedd hefyd wedi’i gynnwys ym mhris y te.
Gall ymwelwyr gael taith dywys am ddim o gwmpas yr adeilad, lle byddant yn dysgu am hanes diddorol, pensaernïaeth a chynaliadwyedd yr adeilad, naill ai cyn neu ar ôl eu te. Gallent hefyd gael gwybod pwy yw eu Haelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli eu buddiannau yn Siambr drafod y Senedd.
Mae’r Senedd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gyda pherfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau sy’n digwydd yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, felly dewch draw i weld beth sy’n digwydd!
Os hoffech archebu te prynhawn a thaith, ffoniwch ni ar 0300 200 6565, anfonwch neges e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru neu galwch heibio’r Senedd i gael rhagor o fanylion.
Mae’r te prynhawn ar gael o ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng 14:00 a 16:00, a rhaid archebu cyn 12:00 ar y diwrnod y byddech yn hoffi ymweld. Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion dietegol pan fyddwch yn archebu.
A ydych yn ymweld ar y penwythnos? Mae teithiau am ddim ar gael bob dydd, a dewis o ddiodydd a lluniaeth ar gael i’w prynu o Gaffi’r Oriel drwy gydol yr haf.
Mae’r Senedd ar hyn o bryd ar agor:
O ddydd Llun i ddydd Gwener 09.30 - 16:30
Dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.
Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.
Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Tudalen Facebook y Senedd.
Bellach gallwch fwynhau’r bensaernïaeth anhygoel a’r golygfeydd rhyfeddol a chael yr hufen ar y gacen gyda the prynhawn hefyd!
[youtube https://www.youtube.com/watch?v=-ArH0PWLEPo]