Bydd Cymru yn pleidleisio ddydd Iau 7 Mai.
P'un a ydych chi'n pleidleisio am y tro cyntaf neu mae angen rhywbeth i’ch atgoffa, dyma ganllaw syml ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd pan ewch i bleidleisio yn y cnawd.
Cyn ichi gyrraedd
Os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghymru, fe allwch chi bleidleisio yn etholiad y Senedd. Ond rhaid i chi gofrestru yn gyntaf.
Mae cofrestru ar-lein yn syml ac yn cymryd pum munud yn unig.
Ar ôl i chi gofrestru, caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch. Bydd hwn yn dweud wrthych ble mae angen i chi fynd i bleidleisio (eich gorsaf bleidleisio) ar ddiwrnod yr etholiad.
Fel arfer, bydd gorsafoedd pleidleisio mewn adeiladau cymunedol cyfarwydd megis ysgolion lleol, eglwysi, neu neuaddau cymunedol. Bydd gorsafoedd ar agor o 07:00 tan 22:00, sy’n rhoi digon o amser ichi fwrw eich pleidlais.
Nid oes angen dod â'ch cerdyn pleidleisio gyda chi, ac nid oes angen dogfen adnabod i bleidleisio yn etholiad Senedd Cymru. Gallwch chi bleidleisio hyd yn oed os ydych chi wedi colli eich cerdyn.
Pan gyrhaeddwch
Pan ewch i mewn i'r orsaf bleidleisio, bydd staff yn eich croesawu ac yn gofyn am eich enw a'ch cyfeiriad. Byddan nhw'n cadarnhau eich bod chi ar y gofrestr etholiadol ar gyfer yr ardal honno. Wedi gwneud hynny, byddan nhw’n rhoi papur pleidleisio i chi.
Mae gorsafoedd pleidleisio yn darparu pennau a phensiliau, ac os nad ydych chi siŵr am unrhyw beth, mae’r staff yno i helpu.
Bwrw eich pleidlais
Ewch â'ch papur pleidleisio i fwth pleidleisio preifat. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn gallu bwrw pleidlais mewn ffordd rydd a chyfrinachol.
Ar y papur pleidleisio, fe welwch restr o’r pleidiau gwleidyddol a’r ymgeiswyr annibynnol sy'n ymgeisio yn eich etholaeth. Mae gennych un bleidlais, ac rydych chi'n ei defnyddio drwy farcio’r blaid neu’r ymgeisydd annibynnol sydd orau gennych.
Bydd cyfarwyddiadau clir ar y papur pleidleisio, ac enghreifftiau o bapurau pleidleisio ar gael os ydych chi awydd gwybod beth i'w ddisgwyl.
Ar ôl ichi bleidleisio
Ar ôl ichi wneud eich dewis, plygwch eich papur pleidleisio a’i roi yn y blwch pleidleisiau wedi'i selio. Pan fydd yr orsaf bleidleisio yn cau am 22:00, bydd eich pleidlais yn cael ei chludo yn ddiogel oddi yno i'r cyfrif lleol.
Yn etholiad y Senedd, bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif yn ystod y dydd ar y diwrnod ar ôl yr etholiad, sef dydd Gwener 8 Mai 2026.
Caiff gwaith cyfri’r etholiad ei reoli yn lleol, felly bydd amser cyhoeddi pob canlyniad yn wahanol ar gyfer pob ardal.
Oes rhaid i mi bleidleisio yn y cnawd?
Nac oes, does dim rhaid i chi bleidleisio yn y cnawd. Os na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio, gallwch gofrestru ymlaen llaw i bleidleisio drwy'r post, neu gallwch ddewis rhywun dibynadwy i bleidleisio ar eich rhan (yr enw am hyn yw pleidlais drwy ddirprwy).
Does dim modd pleidleisio ar-lein.
Pam ddylwn i bleidleisio?
Y Senedd yw senedd Cymru. Mae'n gwneud cyfreithiau i Gymru mewn meysydd fel iechyd, ysgolion, trafnidiaeth, ffermio, yr amgylchedd a'r Gymraeg. Mae cyfreithiau Cymru yn ystyried y sefyllfa yng Nghymru, a all fod yn wahanol i rannau eraill o'r DU.
Bydd gan yr Aelodau a etholir gennych y pŵer i wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ar ddiwrnod yr etholiad, mae gwybodaeth ar wefan y Comisiwn Etholiadol.