P'un a ydych chi'n pleidleisio am y tro cyntaf ar 7 Mai neu os ydych chi eisiau darganfod sut y bydd etholiad y Senedd yn gweithio, dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Cyn yr etholiad
Bydd y Senedd bresennol yn dod i ben yn swyddogol ar 8 Ebrill - diddymiad y Senedd yw’r enw ar hyn.
Ar ôl y dyddiad hwn daw holl fusnes y Senedd i ben, gan gynnwys cyfarfodydd, gwaith y pwyllgorau, ac unrhyw gyfreithiau drafft sydd ar y gweill. Mae’r Aelodau'n rhoi'r gorau i gynrychioli eu hetholaethau ac mae pob sedd yn y Senedd nawr yn rhai gwag.
Cofrestru i bleidleisio
Os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghymru, fe allwch chi bleidleisio yn etholiad y Senedd 2026. Ond yn gyntaf mae angen i chi gofrestru.
Mae’n hawdd cofrestru ar-lein a gallwch wneud hynny mewn pum munud. Gallwch hefyd wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy.
Ar ôl i chi gofrestru, caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch. Bydd hwn yn dweud wrthych ble mae angen i chi fynd i bleidleisio (eich gorsaf bleidleisio) ar ddiwrnod yr etholiad.
Dewch o hyd i bwy sy'n sefyll yn eich ardal chi
Cyn yr etholiad, bydd pob plaid wleidyddol yn llunio rhestr o hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth yng Nghymru. Dim ond mewn un etholaeth y gall ymgeisydd sefyll.
Gall ymgeiswyr annibynnol, nad ydynt mewn plaid wleidyddol, sefyll hefyd.
Rhaid i bob plaid gyflwyno rhestr ymgeiswyr erbyn 9 Ebrill. Gallwch weld pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal chi a phenderfynu pwy fydd yn cael eich pleidlais drwy ymweld â gwefan y Comisiwn Etholiadol.
Dewch o hyd i’ch etholaeth newydd
Ar gyfer yr etholiad hwn, bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 etholaeth newydd yn hytrach na’r 40 etholaeth bresennol. Mae gan bob etholaeth chwe 'sedd', felly bydd chwe Aelod yn cael eu hethol, gan wneud cyfanswm o 96.
Dewch o hyd i'ch etholaeth newydd drwy roi eich cod post yn ein map canfod etholaethau.
Ewch i weld pob un o'r 16 etholaeth newydd a darllenwch am sut y cawsant eu creu.
Ar ddiwrnod yr etholiad
Pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
Os ydych chi'n mynd allan i bleidleisio, bydd eich cerdyn pleidleisio yn dweud wrthych chi ble mae angen i chi fynd i fwrw’ch pleidlais ar ddiwrnod yr etholiad. Byddwch yn pleidleisio mewn lle agos i’ch cartref, fel ysgol neu ganolfan gymunedol.
- Ar 7 Mai, bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor o 07:00 tan 22:00
- Nid oes angen i chi fynd â'ch cerdyn pleidleisio na cherdyn adnabod gyda chi
Pan fyddwch chi'n cyrraedd, bydd staff yr orsaf bleidleisio yn gofyn am eich enw a'ch cyfeiriad fel y gallant ddod o hyd i chi ar restr pleidleiswyr eich ardal. Cewch bapur pleidleisio, a gallwch fynd i fwth preifat i fwrw eich pleidlais. Bydd pensiliau ar gael.
Bydd y papur pleidleisio yn dangos enwau pawb sy'n sefyll i'w hethol ar restr pob plaid, yn ogystal ag unrhyw ymgeiswyr annibynnol, felly byddwch chi'n gallu gweld pwy allai gael eu hethol yn eich ardal chi.
Dyma enghraifft o bapur pleidleisio i roi syniad ichi o sut y byddwch yn ei weld ar y diwrnod.
Mae gennych un bleidlais i ddewis plaid neu ymgeisydd annibynnol i’ch cynrychioli chi a’ch etholaeth yn y Senedd.
- Ar ôl i chi wneud eich dewis, rhowch eich papur yn y blwch pleidleisio
- Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, neu os ydych chi angen unrhyw help, bydd staff yr orsaf bleidleision yn hapus i fod o gymorth
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ar ddiwrnod yr etholiad, mae gwybodaeth ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Pryd mae’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi?
Ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau, mae'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif.
Bydd pleidleisiau ar gyfer etholiad y Senedd 2026 yn cael eu cyfrif yn ystod y dydd, y diwrnod ar ôl y bleidlais, sef ddydd Gwener 8 Mai 2026.
Mae’r gwaith cyfrif o ran etholiadau yn cael ei reoli'n lleol, felly bydd pob canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar amser gwahanol ym mhob ardal.
Bydd lle, sef 'sedd' pob Aelod yn y Senedd, yn cael ei dyrannu iddynt gan ddefnyddio system sy’n cael ei galw’n ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’. Golyga hyn fod seddi’n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau i bob plaid neu ymgeisydd annibynnol.
Dysgwch fwy am y system bleidleisio newydd.
Bydd canlyniadau’r etholiad yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd unwaith y byddant ar gael.