Bydd pobl yn aml yn drysu rhwng 'llywodraeth' a 'senedd', ond mae rolau’r ddwy yn wahanol. Dewch i weld beth y mae’r naill a’r llall yn ei wneud.
Y Senedd vs Llywodraeth Cymru
Senedd Cymru |
Llywodraeth Cymru |
Yn gofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru, ac yma y bydd deddfau'n cael eu gwneud | Yn gyfrifol am redeg y wlad, ac yn penderfynu sut i redeg gwasanaethau cyhoeddus |
Pob un o'r 60 Aelod o'r Senedd (ASau) sy’n cael eu hethol gan bobl Cymru, dan gadeiryddiaeth y Llywydd (yn debyg i’r Llefarydd mewn seneddau eraill) | Caiff ei harwain gan y Prif Weinidog a gweinidogion sy'n gyfrifol am feysydd fel addysg, iechyd a thrafnidiaeth |
Yn cynnal dadleuon ac yn cytuno ar gyfreithiau | Yn gyfrifol am y GIG |
Yn gofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru ac yn craffu ar sut mae'n gwario arian | Yn goruchwylio addysg |
Yn cytuno ar rai trethi | Yn rheoli gwasanaethau cyhoeddus |
Yn trafod materion sydd o bwys i bobl Cymru | Yn hybu'r Gymraeg |
Yn rheoli'r economi |
Pwy yw fy Aelodau o'r Senedd?
Mae eich Aelodau o’r Senedd (ASau) yn eich cynrychioli chi a'ch cymuned. Dysgwch bwy yw eich Aelodau chi a sut y gallwch gysylltu â nhw.
Sut allwch chi ofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru?
Eich Aelodau chi yw eich cynrychiolwyr yn Senedd Cymru, a gallan nhw ofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru ar eich rhan.
Wyddoch chi eich bod yn gallu ymweld â’ch Senedd am ddim?
P’un a ydych yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth neu hanes, neu eich bod am gael diwrnod allan llawn hwyl, mae gan y Senedd rywbeth at ddant pawb.
- Gwylio Aelodau o'r Senedd yn trafod materion ac yn gwneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio arnoch chi a'ch cymuned, a hynny o sedd yn yr oriel gyhoeddus neu yn fyw ar Senedd.tv
- Mynd ar daith dywys i ddysgu mwy am y Senedd, ei phensaernïaeth gynaliadwy, a hanes Bae Caerdydd
- Mwynhau’r golygfeydd godidog o Fae Caerdydd a Phenarth dros baned a phic ar y maen / cacen gri o'r caffi
- Dod â'ch plant gyda chi i'n man chwarae a chwblhau ein llwybr archwilio!
Gallwch ddysgu mwy am ymweld â'r Senedd yma.