Cyhoeddwyd 01/10/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Fy enw i yw Jocelyn Davies, a fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid (
@SeneddCyllid). Yn ystod y tymor hwn, bydd y Pwyllgor yn brysur yn gweithio ar y
Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Cyfraith ddrafft yw Bil – unwaith i’r Cynulliad ei drafod a’i basio, bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, ac yna bydd yn dod i rym. Cyflwynwyd y Bil i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2015 ac mae gan y Pwyllgor gyfle i ystyried yr ‘egwyddorion cyffredinol’ neu brif amcanion y Bil hyd at 27 Tachwedd 2015.
Digwyddiad i randdeiliaid: 23 Medi 2015
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad defnyddiol yn llawn gwybodaeth i randdeiliaid yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).

Diben y digwyddiad oedd rhoi'r cyfle i randdeiliaid â diddordeb rannu eu barn ar y Bil gydag aelodau'r Pwyllgor. Roedd y sesiwn yn cynnwys trafodaethau grŵp gyda chyfranogwyr ac Aelodau, yn ogystal â sesiwn adborth ar y diwedd.

Roedd yn fraint i'r Pwyllgor siarad â chymaint o weithwyr proffesiynol o safon a chlywed eu barn, a fydd yn amhrisiadwy ar gyfer sesiynau craffu ffurfiol y Pwyllgor sydd i ddod gyda thystion, gan gynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Revenue Scotland a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn gwneud y digwyddiad yn un llwyddiannus. Mae'r math hwn o ymgysylltu yn eithaf newydd i'r Pwyllgor ac yn bersonol roedd yn ddefnyddiol iawn imi o ran deall y materion a chael amrywiaeth eang o safbwyntiau mewn ffordd anffurfiol.
Rydym wedi llunio nodyn o'r cyfarfod os hoffech ei ddarllen.
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf