Cyhoeddwyd 02/06/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Prif nod y
Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yw sicrhau bod digon o nyrsys ar gael i ddarparu gofal nyrsio diogel i gleifion drwy'r amser. Cafodd ei gyflwyno gan Kirsty Williams AC ym mis Rhagfyr 2014 ac mae wedi'i ystyried gan y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod misoedd cyntaf 2015. Gwnaethom adrodd ar y Bil ym mis Mai 2015:
Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1 (PDF, 1.09 MB)
Bydd y Cynulliad yn ystyried y Bil hwn yn
@SeneddSiambr ar 3 Mehefin.
Ar ddiwedd y ddadl ar y Bil, gofynnir i Aelodau'r Cynulliad benderfynu a ddylid caniatáu iddo symud i'r camau nesaf o'r broses graffu ai peidio.
Beth mae'r Bil yn cynnig ei wneud?
Diben y Bil yw ei gwneud yn ofynnol bod cyrff gwasanaethau iechyd yn sicrhau'r canlynol:
- bod digon o nyrsys ar gael i ddarparu gofal diogel i gleifion drwy'r amser; a
- bod y gwaith o reoli a chynllunio'r gweithlu o nyrsys yng Nghymru yn dda, yn ddiogel ac yn effeithlon.
Beth oeddem yn ei feddwl o'r Bil?
Ein gwaith fel Pwyllgor yng Nghyfnod 1 yw ystyried a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni'r nodau a bennir gan yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, neu a oes ffyrdd gwell o wneud hynny.
Er mwyn ein helpu i gael ateb i'r cwestiwn hwn, gwnaethom ofyn am gymaint o safbwyntiau â phosibl. Cawsom
34 o ymatebion ysgrifenedig ac estynnwyd gwahoddiad i 32 o unigolion, gan gynnwys Kirsty Williams AC a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu
tystiolaeth lafar yn y Senedd.
Ar ôl ystyried yr ystod o dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys gwybodaeth gan feddygon, nyrsys, gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a chleifion, daethom i'r casgliad y gallai deddfwriaeth helpu i wella lefelau diogel staff nyrsio yng Nghymru. Er ein bod yn unfryd o blaid amcan y Bil, rydym wedi gwneud 19 o argymhellion y credwn y dylid eu rhoi ar waith cyn i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Mae llawer o'n hargymhellion yn canolbwyntio ar ein pryderon y gallai'r Bil achosi nifer o ganlyniadau anfwriadol. Un o'r rheini ydy'r risg y gallai staff nyrsio gael eu symud o un maes ysbyty i faes arall er mwyn cynnal y lefelau staffio. Rydym hefyd yn pryderu y gallai prinder nyrsys fod yn rhwystr sylweddol i allu gweithredu'r Bil yn llwyddiannus.
Ymhlith ein hargymhellion roedd y canlynol:
- sicrhau nad yw cydymffurfiad cyrff iechyd â chymarebau staffio mewn “wardiau cleifion mewnol i oedolion mewn ysbytai acíwt” yn cael effaith andwyol ar lefelau staff nyrsio mewn lleoliadau eraill y GIG yng Nghymru;
- gofyn i'r Gweinidog sicrhau bod canllawiau ar waith i ddiogelu yn erbyn y canlyniadau anfwriadol posibl a ddaw yn sgil y ddeddfwriaeth hon;
- sicrhau cydbwysedd rhwng y defnydd o staff parhaol a staff dros dro wrth gydymffurfio â'r cymarebau staffio;
- ystyried cynnwys cyfeiriad ar wyneb y Bil at drefniadau ar gyfer cynllunio'r gweithlu'n gynhwysfawr, i sicrhau bod digon o nyrsys hyfforddedig ar gael yn y sector cyhoeddus a'r sector annibynnol; a
- darparu eglurder ynghylch y lleoliadau lle bydd y Bil yn gymwys.
Gallwch ddarllen ein rhestr lawn o argymhellion, a'r dystiolaeth sy'n tanategu'r casgliadau rydym wedi'u llunio, yn ein hadroddiad:
Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1 (PDF, 1.09 MB)
Beth nesaf?
Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 3 Mehefin, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 2. Bydd Cyfnod 2 yn dechrau ar 4 Mehefin. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd aelodau'r pwyllgor yn ystyried pob llinell o'r Bil ac yn cynnig unrhyw welliannau y mae angen eu gwneud i'w wella, yn eu barn hwy. Caiff y gwelliannau hyn eu trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor, sydd wedi'i drefnu ar hyn o bryd ar gyfer
9 Gorffennaf 2015.
Os na fydd y Cynulliad yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd y ddeddfwriaeth yn methu ac ni chymerir unrhyw gamau pellach mewn perthynas â'r Bil.
Os hoffech ddysgu mwy am sut y caiff deddfwriaeth ei hystyried gan y Cynulliad, mae gwybodaeth am y broses ar gael ar ein
tudalennau gwe ar ddeddfwriaeth.
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor