Bydd etholiad y Senedd yn digwydd ddydd Iau 7 Mai 2026, felly nawr yw'r amser i wneud yn siŵr eich bod chi'n barod i bleidleisio.
Os byddwch chi'n pleidleisio am y tro cyntaf neu wedi pleidleisio o'r blaen, rhaid i chi gofrestru erbyn 20 Ebrill.
Sut ydw i’n cofrestru?
Mae cofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn hawdd.
Fe allwch chi gofrestru i bleidleisio.Rhaid i chi fod yn 14 oed neu'n hŷn i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Bydd gofyn i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol, ond gallwch gofrestru hyd yn oed os nad oes gennych un.
Gallwch chi hefyd gofrestru drwy'r post. Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen gais i wneud cais am bleidlais drwy’r post. Ar ôl rhoi eich manylion, postiwch y ffurflen i'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gofrestru?
Ar ôl ichi gofrestru, byddwch chi’n cael cerdyn pleidleisio yn y post. Efallai y bydd yn cyrraedd yn agos at ddiwrnod yr etholiad. Bydd y cerdyn hwn yn dweud wrthych chi ble mae eich gorsaf bleidleisio (y lle byddwch chi'n mynd iddo i bleidleisio).
Nid oes angen i chi fynd â'ch cerdyn pleidleisio gyda chi i bleidleisio. Gallwch chi bleidleisio hyd yn oed os ydych chi wedi ei anghofio neu wedi’i golli. Hefyd, nid oes angen i chi fynd â dogfen adnabod (ID) gyda chi i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd.
Dysgwch fwy am beth sy'n digwydd mewn gorsaf bleidleisio.
Oes rhaid i mi fynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio?
Mae sawl ffordd y gallwch bleidleisio. Gallwch bleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio, gallwch gofrestru ymlaen llaw i bleidleisio drwy’r post, neu ddewis rhywun dibynadwy i bleidleisio ar eich rhan (pleidlais drwy ddirprwy yw’r enw ar hyn). Ni allwch bleidleisio ar-lein.
Dysgwch fwy ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Pleidleisio hygyrch
Gall staff yn eich gorsaf bleidleisio eich helpu i bleidleisio ar 7 Mai. Hefyd, bydd gan orsafoedd pleidleisio offer, gan gynnwys papurau pleidleisio print bras, rhywle i eistedd, a chyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio. Am ragor o wybodaeth am bleidleisio hygyrch, ewch i wefan pleidleisio.cymru.
Pam ddylwn i bleidleisio?
Y Senedd yw senedd Cymru. Mae'n gwneud cyfreithiau i Gymru mewn meysydd fel iechyd, ysgolion, trafnidiaeth, ffermio, yr amgylchedd a'r Gymraeg. Mae cyfreithiau Cymru yn ystyried y sefyllfa yng Nghymru, a all fod yn wahanol i rannau eraill o'r DU.
Bydd gan yr Aelodau sy’n cael eu hethol gennych y pŵer i wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru.
Pwy all bleidleisio?
I bleidleisio yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026, rhaid i chi:
- fod yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad (diwrnod y bleidlais);
- bod wedi cofrestru i bleidleisio;
- bod yn ddinesydd cymwys o Brydain, Iwerddon neu’r Gymanwlad, yn ddinesydd o’r Undeb Ewropeaidd, neu’n ddinesydd tramor cymwys;
- byw yng Nghymru; a
- bod â hawl gyfreithiol i bleidleisio
Ydych chi'n gymwys i bleidleisio? Mae gan y Comisiwn Etholiadol lawer mwy o wybodaeth am gofrestru i bleidleisio.
Dyma eich cyfle. Cofrestrwch i bleidleisio erbyn 20 Ebrill. Gwnewch eich marc.