Cyhoeddwyd 01/06/2017
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Fyddwch chi’n ymweld â Chaerdydd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA? Bydd croeso cynnes ichi ym mhrifddinas Cymru. Mae Cymru’n wlad llawn diwylliant a threftadaeth, ac mae Caerdydd yn lle bendigedig i ymdeimlo ag awyrgylch y digwyddiad rhyfeddol hwn.
Os byddwch chi ym Mae Caerdydd ar gyfer Gwŷl Cynghrair Pencampwr UEFA, beth am ymweld â'r Senedd ac ymweld ag un o adeiladau pwysicaf a mwyaf modern Cymru? Rydyn ni wedi llunio canllaw defnyddiol i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich ymweliad.
Am wybodaeth mewn ieithoedd gwahanol:
Pour plus d'informations en français:
link
Per informazioni in italiano:
link
Para información en español:
link
Beth yw'r Senedd?
Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae'n ganolbwynt democratiaeth yng Nghymru. Yn adeilad seneddol modern a ddathlodd ei phen-blwydd yn ddeg oed llynedd, mae'r Senedd hefyd yn un o'r adeiladau mwyaf ecogyfeillgar a chynaliadwy yng Nghymru.
Mae hefyd yn adeilad cyhoeddus, sy'n croesawu ymwelwyr saith diwrnod yr wythnos, ac yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod wedi derbyn Tystysgrif Ragoriaeth gan Trip Advisor.
Yn bwysicaf oll, mae’r ymweliad yn
rhad ac am ddim ac mae gan y Senedd rai o'r golygfeydd gorau ym Mae Caerdydd, felly dewch i mewn i gael gweld y cwbl.
Beth sydd y tu mewn?
Y siambr drafod
Yn y Senedd mae siambr drafod Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Os edrychwch i lawr o dan y twndis enfawr, gallwch chi weld lle mae ein gwleidyddion yn eistedd yn ystod dadleuon seneddol. Ewch ar un o'n teithiau rhad ac am ddim i ddarganfod rhagor am yr adeilad a'r hyn sy'n digwydd yma.
Caffi a Siop Anrhegion
Mae gan y Senedd gaffi (gweler rhagor am hwnnw isod) a siop hefyd, sy'n gwerthu cynnyrch lleol, cofroddion ac anrhegion. Mae yno wisgi Cymreig, cynnyrch Melin Tregwynt a chofroddion gyda brand y Cynulliad arnynt i gofio am eich ymweliad.
Arddangosfeydd
Wrth ymyl y caffi mae man arddangos lle cynhelir gwahanol ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau eraill drwy gydol y flwyddyn. Dewch draw i weld beth sy'n digwydd!
Ewch ar daith dywysedig
Y ffordd orau i ddod i adnabod y Senedd yw trwy fynd ar daith dywysedig. Bydd ymwelwyr yn dysgu am hanes a phensaernïaeth unigryw yr adeilad ac yn dysgu rhagor am y gwaith a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r teithiau yn RHAD AC AM DDIM. Y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw dod i'r Senedd a byddwn yn rhoi gwybod ichi faint o'r gloch bydd y daith nesaf yn dechrau.
Mwynhewch flas o Gymru
Mae caffi y Senedd yn cynnig dewis o ddiodydd poeth ac oer, neu fe allwch chi gael blas ar rai o danteithion traddodiadol Cymreig – gallwch chi fwynhau cacen Gymreig neu sleisen o fara brith gyda photed o de.
Mae'r golygfeydd o'r man eistedd yn odidog - gwyliwch y cychod hwylio ar ddŵr disglair Bae Caerdydd, neu edrychwch ar fwrlwm gŵyl Cynghrair y Pencampwyr o dan ganopi trawiadol y Senedd.
Cyfleusterau a mynediad
Fel gydag unrhyw adeilad y llywodraeth, mae'n ofynnol i bob ymwelydd fynd drwy'r system ddiogelwch ar ei ffordd i mewn i'r Senedd. Mae ein tîm diogelwch wedi'u hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr sydd ag anableddau, neu’r rhai a allai fod ag anghenion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.
Mae’r Senedd yn gwbl hygyrch gan fod mynediad ramp ar flaen yr adeilad a lifftiau i bob llawr y tu mewn. Mae system dolen glyw ar gael i ddefnyddwyr teclynnau cymorth clyw.
Mae gan yr adeilad gyfleusterau newid a gynorthwyir yn llawn ac ystafelloedd ymolchi niwtral o ran y rhywiau sy'n addas i bawb.
Tynnwch hunlun gyda'n Snapchat GeoFilter
Os ydych chi ar Snapchat – cadwch lygad allan am ein ffilter arbennig a rhannwch eich lluniau ar gyfryngau cymdeithasol!
[gallery ids="2660,2661" type="rectangular" link="none"]
Linciau defnyddiol:
Pour plus d'informations en français:
link
Per informazioni in italiano:
linc
Para información en español:
linc
Tudalen Trip Advisor ar gyfer Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Tudalen Facebook y Senedd.