Beth ddigwyddodd?
Ar y noson y cafodd Cymru ei tharo gan Storm Darragh, cafodd Porthladd Caergybi ei daro gan ddwy long. Difrodwyd terfynell tri yn ddifrifol, a chafodd y porthladd ei gau ar unwaith. Nid oedd modd cael mynediad at y Porthladd am gyfnod o fwy na mis, a chafodd hyn effaith ar weithgarwch yn ystod cyfnod prysur y Nadolig.
Chwilio am atebion
Mae’r Porthladd bellach wedi ailagor yn rhannol, ac mae gwasanaethau fferi wedi ailddechrau. Felly, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn chwilio am atebion ynghylch pam y cafodd y Porthladd ei gau am gyfnod mor hir, yr effaith y cafodd y penderfyniad hwn ar bobl a busnesau lleol, a sut y gellir atal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.
Gofynnodd y Pwyllgor y cwestiynau a ganlyn:
- Achosion: Beth allai fod wedi cael ei wneud i atal y difrod rhag bod mor ddifrifol?
- Cyfathrebu: Sut y cafodd defnyddwyr porthladdoedd, cymunedau a busnesau eu hysbysu am y sefyllfa o ran cau’r porthladd yn ystod ac ar ôl y storm?
- Camau adfer: A gafodd y difrod ei asesu a'i atgyweirio yn ddigon cyflym?
- Effaith: Pa effaith a gafodd y penderfyniad i gau’r porthladd, a pha gamau a gymerwyd i liniaru’r effaith bosibl?
Y camau nesaf
Mae'r Pwyllgor wedi cynnig argymhellion ynghylch sut y gall y gwersi a ddysgwyd yn sgil cau'r Porthladd arwain at ymateb gwell i ddigwyddiadau yn y dyfodol. Roedd y negeseuon allweddol yn cynnwys y negeseuon a ganlyn:
- Rhaid dysgu gwersi er mwyn sicrhau ymateb gwell i unrhyw ddigwyddiad yn y dyfodol.
- Mae angen arweinyddiaeth glir – dylai ymatebion gael eu harwain gan unigolyn atebol y gellir ei ddwyn i gyfrif.
- Diffyg ffocws ar bolisïau ym maes cludo nwyddau a phorthladdoedd – mae angen cyflawni ymrwymiadau ynghylch porthladdoedd a pholisïau ym maes cludo nwyddau er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid wedi'u paratoi'n well ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
- Gweithio gyda phartneriaid – mae'r Pwyllgor yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn partneriaeth o fewn y tasglu newydd a sefydlwyd, sef Tasglu Gwydnwch Môr Iwerddon, ac yn annog y tasglu i weithio'n gyflym i ddeall a datrys unrhyw faterion sydd heb eu datrys.
Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?
- Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar-lein.
- Gallwch ddilyn gwaith y Pwyllgor ar X: @SeneddEconomi