Cyfieithu Peirianyddol - Rhodri Glyn Thomas AC
Cyhoeddwyd 21/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith UNESCO, sydd â’r nod o hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ac amlieithrwydd ledled y byd – a dyma’r amser perffaith i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn cydweithrediad â Microsoft, lansio system cyfieithu peirianyddol awtomatig sy’n rhoi llwyfan byd-eang i’r Gymraeg.
Bydd y Gymraeg bellach yn ymuno â nifer o ieithoedd brodorol nad yw’r rhan fwyaf o ddarparwyr cyfieithu yn eu cefnogi, gan gynnwys Wrdw, Malay a Chatalaneg, ochr yn ochr ag ieithoedd mawr fel Tsieineeg, Sbaeneg a Rwsieg, a gefnogir gan Microsoft Translator ac sy’n rhan o’r rhaglenni Bing Translator a bwerir ganddo.
Y Gymraeg yw un o ieithoedd byw hynaf Ewrop ac mae’n parhau i ffynnu heddiw. Mae’n rhan bwysig o fywyd dinesig a diwylliannol yng Nghymru, gyda dros hanner miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ogystal â nifer sylweddol ledled y byd, ac felly mae’n bwysig iddi fod yn rhan o’r datblygiadau technolegol diweddaraf o ran cyfathrebu.
Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi deddfu i sicrhau ein bod yn darparu ein gwasanaethau’n ddwyieithog, ac mae gan Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd yr hawl i gyfathrebu yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Felly, rydym yn cynhyrchu llawer o ddeunydd dwyieithog, gan gynnwys Cofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn, a defnyddiwyd y data hwn fel sail ar gyfer pecyn Cymraeg Microsoft Translator.
Mae gweithio mewn partneriaeth â Microsoft wedi galluogi arbenigwyr technolegol a defnyddwyr y Gymraeg i gydweithio i greu cyfleuster cyfieithu peirianyddol a fydd yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol, sy’n un o’n prif ymrwymiadau. Bydd yn ei gwneud yn haws i bobl gyfathrebu ag eraill yn eu dewis iaith, a bydd o gymorth i bobl sy’n dysgu Cymraeg neu sydd am ddeall y Gymraeg yn y gweithle – ond, wrth gwrs, mae’r dechnoleg hon yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, nid yn y gweithle’n unig!
Nid yw safon cyfieithu peirianyddol yn berffaith o bell ffordd ac ni fydd byth cystal â chyfieithiad gan berson. Fodd bynnag, drwy gydweithio â’r gymuned ieithyddol a chyfieithwyr proffesiynol a manteisio ar yr adnoddau addasu y mae Microsoft wedi’u datblygu, gallwn fwydo cywiriadau yn ôl i’r system, gan wella safon y cyfieithiadau a gynigir yn barhaus.
Hoffwn estyn diolch i Microsoft am weithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol i ddatblygu’r system hon, ac rwyf am estyn diolch i staff Comisiwn y Cynulliad hefyd am eu gwaith caled wrth helpu i ddatblygu’r adnodd ardderchog newydd hwn.
Rhodri Glyn Thomas AC
Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am y Gymraeg