Cyhoeddwyd 15/06/2012
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
[caption id="attachment_160" align="alignleft" width="300"]

Annest Jones (chwith) ac Elain Jones (dde), sy’n ddisgyblion blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn[/caption]
Bu Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n siarad â chynrychiolwyr busnesau bwyd ac aelodau o’r cyhoedd yn ystod Eisteddfod yr Urdd, er mwyn clywed eu barn am Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru). Ymhlith y bobl a gafodd eu holi ar fws y Cynulliad oedd Annest Jones (chwith) ac Elain Jones (dde), sy’n ddisgyblion blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn, ynghyd â Jasmine (chwith) a Lesley Cepon (dde), sydd o Arfon (i’w weld yn y llun).
Dywedodd Nia Mccarthy, sy’n dod o Lanelli ond sy’n athrawes yn y Coed Duon: “Mae’n dda gweld bod y Cynulliad wedi dod yma i siarad â phobl ar lawr gwlad, a hynny er mwyn clywed eu barn. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw busnesau bach gwledig yn cael eu heffeithio’n negyddol gan y Bil hwn, sicrhau bod y Bil yn hybu’r economi, a sicrhau hefyd nad yw’r Bil yn rhwystro pobl rhag dechrau busnesau.”
Ar y ffordd i Eisteddfod yr Urd
[caption id="attachment_161" align="alignright" width="300"]

Jasmine (chwith) a Lesley Cepon (dde), sydd o Arfon[/caption]
d, ymwelodd un o reolwyr allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â nifer o gynrychiolwyr busnesau bach i glywed eu barn am y Bil. Roedd y rhain yn cynnwys Sarah Reast o Ganolfan Ymwelwyr Machinations yn Llanbrynmair, Powys; Iona Jones o Siop y Pentre ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd; a Karen Evans o’r Penrhos Arms yng Nghemmaes, Machynlleth.
Ar ôl cael ei holi, dywedodd Karen: “Rwy’n falch fod aelod o staff allgymorth y Cynulliad wedi galw heibio heddiw er mwyn i mi gael cyfle i ddweud fy nweud am y Bil. Yn gyffredinol, credaf fod y Bil yn syniad da, ond dylid ceisio manylu ymhellach ar y meini prawf, yn hytrach na chael un system o sgorio yn unig, a hynny gan ddefnyddio sêr, er mwyn peidio â drysu cwsmeriaid.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Bil, cliciwch ar y linc a ganlyn:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=3812