Croesawodd y Senedd arwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru mewn digwyddiad arbennig i anrhydeddu eu llwyddiant.
Dan arweiniad Jason Mohammed, roedd cyfle i ddathlu cyfraniad anhygoel athletwyr, hyfforddwyr ac enillwyr dros ddwsin o fedalau, gydag Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, a Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, ill dau yn estyn eu llongyfarchiadau.
Enillodd Olivia Breen fedal efydd yn y Gemau Paralympaidd a bu’n siarad am yr awyrgylch yn Tokyo a sut roedd chwaraeon wedi ei helpu gyda'i hanabledd a’i bywyd bob dydd.
Dywedodd: "Roedd pobl Japan mor hyfryd a chadarnhaol ac roedd yn anhygoel bod allan yno. Daethom ni ynghyd fel tîm ac roedd pawb yn cefnogi ein gilydd ac roedd hynny’n wych... Mae chwaraeon Paralympaidd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fy mywyd, mae wedi helpu fy anabledd, mae wedi helpu fy mywyd bob dydd ac rydym ni am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf."
Enillodd Lauren Williams fedal arian yn Tokyo ac ychwanegodd: "Mae'n rhyfedd i feddwl mai fi oedd y ferch fach yna unwaith yn gwylio'r gemau ac nawr rwy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Allwn i ddim gofyn am ddim byd mwy."
Athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru gyda Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, ac Elin Jones AS, y Llywydd. Llun: Matthew Horwood
Julia Wells, un o ddadansoddwyr Tîm Prydain Fawr, yn tynnu hunlun gyda’i chyd-aelodau o dimau Olympaidd a Pharalympaidd Cymru. Llun: Matthew Horwood
(O’r chwith i’r dde) Lauren Williams, Olivia Breen ac Aled Sion Davies yn rhannu moment ddifyr yn ystod digwyddiad y Senedd i’w croesawu adref. Llun: Matthew Horwood
Olivia Breen, enillydd medal efydd yn y Gemau Paralympaidd, yn nigwyddiad y Senedd i groesawu’r athletwyr adref. Llun: Matthew Horwood
Aled Sion Davies, cyd-gapten carfan Baralympaidd Tîm Prydain Fawr, yn dangos ei fedal aur. Llun: Matthew Horwood