Dathlu Dydd Miwsig Cymru 2020

Cyhoeddwyd 07/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae'n Ddydd Miwsig Cymru heddiw, sef digwyddiad blynyddol sy'n cael ei ddathlu ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg.

Eleni, mae aelodau staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bachu ar y cyfle i ymuno â Dydd Miwsig Cymru, fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sefydliad.

Rydyn ni wedi bod yn tynnu hunluniau, yn creu rhestrau chwarae ac yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn uchel ar draws yr ystad.

Dyma gipolwg ar y pethau rydyn ni wedi bod yn ei wneud:

Hunluniau Dydd Miwsig Cymru

Diolch i’r staff a’r Aelodau sydd wedi dweud wrthym beth yw eu hoff ganeuon Cymraeg a gwenu ar gyfer y camera – mae cerddoriaeth Gymraeg yn boblogaidd iawn yma!

Rhestrau chwarae – pa un yw eich ffefryn?

Diolch yn fawr i Senedd Ieuenctid Cymru, ein dysgwyr a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed AC, am gyflwyno eu rhestrau chwarae yn cynnwys eu hoff ganeuon Cymraeg.

Rydyn ni hefyd wedi cynnwys rhestr chwarae'r Llywydd o 2018, sy'n cynnwys rhai o'i hoff draciau!

Senedd Ieuenctid Cymru

https://open.spotify.com/playlist/0KOnRxu58qI8lSrLgRop3B?si=IevF6pAFTyWpNYKIvU9hMg

Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

https://open.spotify.com/playlist/4Zyp1ML4F8GYDrGMsx09bs?si=FLPOPvNfRreXXznys2HCZw

Caneuon i Ddysgwyr

https://open.spotify.com/playlist/6K7tDNXlVX6jveK2ifj8y4?si=K606ai7GTd29R140U3VX_g

Y Llywydd

https://open.spotify.com/playlist/3d2Y4k8FTe5OWeM6CV8gAy?si=n_inaKxzTcWq3I_RJR6E2Q