Chwech o fenywod yn eistedd yng nghanol y Siambr yn Senedd Cymru, yn cymryd rhan mewn cynhadledd ac yn siarad â meicroffonau.

Chwech o fenywod yn eistedd yng nghanol y Siambr yn Senedd Cymru, yn cymryd rhan mewn cynhadledd ac yn siarad â meicroffonau.

Dathlu Menywod yn Nemocratiaeth Cymru - Lle i Ni

Cyhoeddwyd 07/02/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/03/2024   |   Amser darllen munud

Ar 21 Hydref 2023, agorodd y Senedd ei drysau i “Lle i Ni” ar gyfer ei ddigwyddiad diwrnod menywod cyntaf.

Roedd y digwyddiad yn ffrwyth misoedd o waith partneriaeth agos gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru) ac Elect Her am ddiwrnod o ymgysylltu, grymuso a dathlu pwysigrwydd menywod yn nemocratiaeth Cymru.

Gyda’i nod o ddod â chymuned amrywiol o fenywod at ei gilydd i ddysgu am y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig ag ymgeisio am swyddi etholedig, roedd Lle i Ni yn addo bod yn ddigwyddiad arloesol i fenywod Cymru ac i’r Senedd.

 

Menywod Cymru yn Meddiannu Siambr y Senedd

Dechreuodd y diwrnod gyda chyfle prin i gyfranogwyr eistedd yn y Siambr yn lle Aelodau o’r Senedd, i glywed geiriau ysbrydoledig gan arweinwyr gwleidyddol benywaidd a rhyngweithio â phanel trawsbleidiol a oedd yn cynnwys menywod o lywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol, yn ogystal ag Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Roedd gwylio’r digwyddiad o’r oriel gyhoeddus yn brofiad calonogol ac arwyddocaol; roedd amrywiaeth y cefndiroedd a’r phrofiadau ymhlith y menywod a oedd wedi cymryd y Siambr drosodd yn beth hynod bwerus. Roedd hi wir yn gyfle i fenywod Cymru weld eu hunain ym myd gwleidyddiaeth a theimlo bod ganddynt gefnogaeth cymuned ar y ffordd i ymgeisio am swyddi cyhoeddus.

Un o uchafbwyntiau'r sesiwn yn y Siambr oedd araith y Cynghorydd Sara Pickard ar ddod yn Gynghorydd Cymuned dros Bentyrch fel rhywun ag anabledd. Soniodd am ei phrofiadau fel eiriolwr dros bobl ag anableddau ar lefel genedlaethol ac ar lefel ryngwladol, gan fyfyrio ar ei rôl fel Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl gyda Llywodraeth Cymru a’i gwaith dros y byd yn ymgyrchu dros newid.

“Rwy’n gweithio i Mencap Cymru, ac rwy’n teimlo’n falch iawn o hynny; i gael hyrwyddo gwaith da unrhyw un sydd ag anabledd dysgu, ni waeth pwy ydyw - gallant gyflawni unrhyw beth yn eu bywydau heb orfod clywed dim am fod yn wahanol.”

Diwrnod o Rwydweithio a Grymuso

Ar ôl i sesiwn y Siambr ddod i ben, gwahoddwyd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai yn adeilad y Senedd. Roedd y gweithdai, dan law sefydliadau nodedig fel Stonewall Cymru, Anabledd Cymru a Chynghrair Hil Cymru, yn rhoi amser i gyfranogwyr edrych ar wahanol ffyrdd o ymwneud â democratiaeth yng Nghymru. O sut i gael eich ethol i ddod yn ymgyrchydd, nod y cynnwys oedd cefnogi menywod iddynt baratoi orau ar gyfer y rolau hyn. Roedd y Senedd yn llawn cyffro wrth i rai o ffigurau benywaidd mwyaf dylanwadol Cymru gyfnewid profiadau personol a gwersi.

Fel rhan o’r gweithdy ar weithredu yng Nghymru, cawsom y fraint o glywed gan Helen Pankhurst, ymgyrchydd hawliau menywod a gor-wyres i Emmeline Pankhurst, arweinydd y Swffragetiaid. Soniodd Helen am arwyddocâd cynrychiolaeth gyfartal mewn seneddau, materion sydd o bwys i fenywod heddiw, a’r math o amrywiaeth y mae hi am ei gweld yn y dyfodol.

“Mae cyfoeth democratiaeth, pŵer democratiaeth, yn ymwneud â chynrychiolaeth. Yn ei hanfod mae'n ymwneud â'r cysylltiad rhwng y dinasyddion a'r bobl sy'n gwneud y penderfyniadau - y llunwyr polisi. Po fwyaf amrywiol y llunwyr polisi, mwyaf yn y byd y bydden nhw’n cynrychioli’r gymdeithas, a mwyaf cyfoethog, pwerus, a chyflawn y bydd democratiaeth.”

Pa Effaith Gafodd “Lle i Ni” ar y Senedd?

Un o brif bwyntiau’r diwrnod i’r Senedd oedd pwysigrwydd datblygu partneriaethau cryf â sefydliadau fel WEN Cymru ac Elect Her, fel bod digwyddiadau fel Lle i Ni sy’n cael eu cynnal yn y dyfodol yn ystyrlon ac yn hygyrch i gynulleidfa amrywiol iawn yng Nghymru.

Roedd y cydweithio’n golygu bod y gynulleidfa o fenywod yn y Senedd yn wirioneddol gynrychioliadol o’u cymunedau ac yn angerddol dros gydbwysedd rhwng y rhywiau mewn gwleidyddiaeth.

Rydym yn gobeithio parhau â’r gwaith hwn gyda’r ddau bartner ac mae’n fwriad gennym feithrin mwy o gysylltiadau fel y rhain, fel y gallwn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd a chefnogi mwy o bobl i ymgysylltu â democratiaeth Cymru.