Cyhoeddwyd 22/03/2017
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y llynedd, gwnaethom groesawu dros 60,000 o ymwelwyr i'n hadeiladau, croesawu EUB y Frenhines yn Agoriad Swyddogol y Cynulliad a gweiddi cymeradwyaeth ar gyfer ein Olympiaid a Pharalympiaid yn y digwyddiad Dychwelyd Adref.
Mae ein tîm Diogelwch yn sicrhau diogelwch a diogeledd pawb sy'n gweithio yn y Cynulliad neu'n ymweld ag ef a nhw yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl ymwelwyr â'r ystad.
Rydym yn bwriadu creu rhestr wrth gefn ar gyfer ymuno â’n
tîm diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, os hoffech gael gwybod pan fydd swyddi newydd ar gael,
cysylltwch â ni.
A oes gennych ddiddordeb?
Ein Swyddogion Diogelwch Shane a Dean yn siarad am pam efallai mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r lle i chi.
Sut mae gweithio yma yn wahanol i swyddi diogelwch eraill?
“Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi defnyddio Cymraeg yn unrhyw un o fy swyddi eraill. Rwy'n hoffi siarad â'r cyhoedd, ac mae siarad â chydweithwyr Cyswllt Cyntaf yn helpu i godi safon fy Nghymraeg.”
Shane
"Mae'n wych i deuluoedd ac mae'r amgylchedd yn wirioneddol gefnogol."
Dean
Trwy ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru byddwch yn cael gweithio mewn dau o adeiladau mwyaf eiconig Cymru -
y Senedd a'r Pierhead - a
gweld gwleidyddiaeth Cymru ar waith yn y Siambr.
Beth ydych chi'n ei hoffi am weithio i'r Cynulliad?
“Rydych yn cwrdd â phobl ddiddorol, mae yna rhywbeth ymlaen drwy'r amser.”
Shane
Mae ein staff diogelwch yn cael eu hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr ag anableddau, neu a allai fod â gofynion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.
Felly beth mae diwrnod arferol yn ei olygu?
Yn ogystal â monitro'r adeiladau, mae staff diogelwch yn cyfarch yr holl ymwelwyr ac yn sicrhau diogelwch ar yr ystad. Maent hefyd yn gweithio gydag Aelodau'r Cynulliad, adrannau eraill a sefydliadau allanol i gynllunio digwyddiadau yn y Cynulliad.
Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr, mae'r tîm Diogelwch wedi ennill cryn dipyn o adborth ar ein tudalennau
Trip Advisor a
Facebook y Senedd. Mae rhai sylwadau diweddar yn cynnwys:
"... swyddogion diogelwch cyfeillgar oedd o gymorth mawr ..."
"... swyddogion diogelwch effeithlon iawn ond hwyliog ..."
"Mae'r staff diogelwch yn neis iawn ac yn gyfeillgar, pan maen nhw'n dweud "Croeso i adeilad Cynulliad Cymru ... " gyda gwên gyfeillgar y mae'n cael effaith dda.”
Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt personol i chi wrth weithio yma?
"Yr Agoriad Brenhinol - bod yn rhan o rywbeth mor fawreddog". Dean
"Cwrdd â Bruce Dickinson o Iron Maiden, mae'n un o fy arwyr". Shane
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am ymgeisio am y swydd?
"Mae'r ochr llesiant yn dda iawn, gallwch ddatblygu eich hun fel unigolyn.”
Dean
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle cyffrous i weithio gyda pholisïau blaengar ac ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad. Mae rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio i ni ar gael ar ein
Tudalennau Recriwtio.
Recriwitio ar gyfer Swyddogion Diogelwch ar hyn o bryd
Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddogion Diogelwch newydd ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth ac i wneud ffuflen gais, ewch yma i fynd i'n tudalenau recriwtio. Y dyddiad cau yw 13 Hydref 2017.