Ugain mlynedd yn ôl i fis Medi eleni, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain.
Dyma’r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio i’w gael erioed. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar sut y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyfnhau ei berthynas â phobl Cymru drwy ddulliau cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol.![tasglu-digidol-cyfryngau-cymdeithasol-yng-nghynulliad-cenedlaethol-cymru](/blogfilescy/2017/06/blog-image-1.png)
![diwrnod-hacio-yn-y-senedd-bae-caerdydd](/blogfilescy/2017/06/blog-image-2.png)
Senedd Lab (Diwrnod Hacio), fforio sut y gall arloesiad Digidol gwella’r ffordd mae’r Cynulliad yn ymgysylltu efo’r cyhoedd.
O’i drefnu’n iawn, mae hwn yn lle digidol dwys, gwerthfawr a democrataidd sy’n adlewyrchu sgyrsiau’r genedl am y materion hynny sydd o’r pwys mwyaf iddi. Dylai fod yn arloesol, yn greadigol, ac yn ennyn ysbrydoliaeth. Roedd ein grŵp yn cynnwys pobl ag amrywiaeth o sgiliau perthnasol, gan gynnwys y cyfryngau, addysg, cynnwys digidol a datblygiadau yn y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi ein galluogi i wneud awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella’r modd y mae’r Cynulliad yn gweithredu.Mae ein hargymhellion yn amrywiol.
Maent yn cynnwys yr awgrymiadau hyn:- Dylai’r Cynulliad arwain y ffordd a sefydlu gwasanaeth cynnwys integredig gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill (fel cylchlythyrau e-bost pwrpasol) i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl Cymru.
- Dylai’r Cynulliad roi pobl, yn hytrach na’r sefydliad a’i brosesau, wrth wraidd straeon newyddion amserol ac anelu at wneud cysylltiad emosiynol â’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.
- Dylai’r Cynulliad greu cynnwys sy’n helpu pobl i ddeall y cysylltiadau, y gwahaniaethau a’r berthynas waith rhwng y Cynulliad a sefydliadau allweddol eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru, i fynd i’r afael â’r diffyg o ran gwybodaeth ddemocrataidd.
- Rhaid i Senedd TV fod yn haws ei ddefnyddio, gyda dull syml o alluogi pobl i ganfod a chlipio ffilmiau’n gyflym er mwyn eu cynnwys mewn pecynnau fideo neu eu mewnblannu ar dudalennau Aelodau’r Cynulliad, gwefannau allanol a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.
- Dylid mabwysiadu dulliau clyfar ar gyfer dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol i ganfod sgyrsiau a chymunedau ar-lein, a chaniatáu i’r Cynulliad gymryd rhan ynddynt.
- Rhaid i’r Cynulliad fanteisio ar bob opsiwn amgen yn lle datganiad i’r wasg fel ffordd o hyrwyddo’i waith. Mae gan fapiau, ffeithluniau, blogiau, a chrynodebau byr y potensial i gyfleu negeseuon anodd mewn ffordd gofiadwy.
- Dylid cael adran benodedig hawdd ei defnyddio ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar blatfform Hwb, gydag adnoddau ar gyfer addysgu sy’n gysylltiedig ag anghenion y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
- Dylai’r Cynulliad feithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach Cymru i’w gwneud yn haws ymgysylltu â’r Cynulliad ac archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu MOOC (Cwrs Ar-lein Agored Enfawr) am ei waith.
- Dylid mabwysiadu’r platfformau cyfryngau cymdeithasol sydd fwyaf addas i ymgysylltu â phobl ifanc a dysgwyr. Dylai’r Cynulliad groesawu’r potensial ar gyfer ymgysylltu digidol gan ddefnyddio platfformau eraill fel Skype, Facetime, realiti rhith neu realiti estynedig.
- Dylid meddwl mwy am brofiad ymwelwyr yn ystâd y Cynulliad – y tu allan a’r tu mewn yn y Senedd a’r Pierhead – gan gynnwys tafluniadau, waliau fideo, realiti rhith a realiti estynedig ar yr ystâd.
![person-yn-defnyddio-iphone-am-gyfryngau-cymdeithasol](/blogfilescy/2017/06/blog-image-3.png)
![lawrlwytho-adroddiad-tasglu-digidol](/blogfilescy/2017/06/blog-report-download-cy.png)