Deialog â’n democratiaeth

Cyhoeddwyd 21/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/06/2017

Ugain mlynedd yn ôl i fis Medi eleni, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain.

Dyma’r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio i’w gael erioed. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar sut y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyfnhau ei berthynas â phobl Cymru drwy ddulliau cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol. tasglu-digidol-cyfryngau-cymdeithasol-yng-nghynulliad-cenedlaethol-cymru Mae ein ffocws wedi bod ar y dinesydd Cymreig, sef defnyddiwr posibl llwyfan a gwasanaethau’r Cynulliad. Ein man cychwyn yw y dylai pob gohebiaeth y Cynulliad gael ei chynllunio gyda buddiannau dinasyddion / defnyddwyr yn ganolog iddi, a dylai’r wybodaeth ynddi fod yn agored, er mwyn ceisio datblygu perthynas hirdymor â dinasyddion Cymru. Yn ein hadroddiad rydym yn dangos sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio’r sianelau cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol modern i ganfod beth mae pobl yn ei feddwl ac yn poeni amdano, i gasglu tystiolaeth, gwybodaeth a barn, i gymryd rhan mewn amser real â phobl mewn cymunedau lleol a chymunedau o ddiddordeb. Yna gall yr un cyfryngau ganiatáu i’r Cynulliad rannu gyda hwy yn uniongyrchol sut y mae eu cynrychiolwyr etholedig, yn unigol ac ar y cyd, yn ceisio ymateb i’r materion hynny. Mewn rhai meysydd mae ein cynigion yn radical. Rydym am i’r Cynulliad, ei Aelodau a’i staff, ddeall eu bod yn creu cynnwys: mae’r Cynulliad yn blatfform cynnwys sy’n casglu ffeithiau, gwybodaeth, data, sylwebaeth, barn, a dadansoddiadau, yn ysgrifenedig ac yn glyweledol, sydd naill ai’n arwain at weithredu neu weithiau – yn fwriadol – at beidio â gweithredu. diwrnod-hacio-yn-y-senedd-bae-caerdydd

Senedd Lab (Diwrnod Hacio), fforio sut y gall arloesiad Digidol gwella’r ffordd mae’r Cynulliad yn ymgysylltu efo’r cyhoedd.

O’i drefnu’n iawn, mae hwn yn lle digidol dwys, gwerthfawr a democrataidd sy’n adlewyrchu sgyrsiau’r genedl am y materion hynny sydd o’r pwys mwyaf iddi. Dylai fod yn arloesol, yn greadigol, ac yn ennyn ysbrydoliaeth. Roedd ein grŵp yn cynnwys pobl ag amrywiaeth o sgiliau perthnasol, gan gynnwys y cyfryngau, addysg, cynnwys digidol a datblygiadau yn y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi ein galluogi i wneud awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella’r modd y mae’r Cynulliad yn gweithredu.

Mae ein hargymhellion yn amrywiol.

Maent yn cynnwys yr awgrymiadau hyn:
  1. Dylai’r Cynulliad arwain y ffordd a sefydlu gwasanaeth cynnwys integredig gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill (fel cylchlythyrau e-bost pwrpasol) i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl Cymru.
  2. Dylai’r Cynulliad roi pobl, yn hytrach na’r sefydliad a’i brosesau, wrth wraidd straeon newyddion amserol ac anelu at wneud cysylltiad emosiynol â’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.
  3. Dylai’r Cynulliad greu cynnwys sy’n helpu pobl i ddeall y cysylltiadau, y gwahaniaethau a’r berthynas waith rhwng y Cynulliad a sefydliadau allweddol eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru, i fynd i’r afael â’r diffyg o ran gwybodaeth ddemocrataidd.
  4. Rhaid i Senedd TV fod yn haws ei ddefnyddio, gyda dull syml o alluogi pobl i ganfod a chlipio ffilmiau’n gyflym er mwyn eu cynnwys mewn pecynnau fideo neu eu mewnblannu ar dudalennau Aelodau’r Cynulliad, gwefannau allanol a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.
  5. Dylid mabwysiadu dulliau clyfar ar gyfer dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol i ganfod sgyrsiau a chymunedau ar-lein, a chaniatáu i’r Cynulliad gymryd rhan ynddynt.
  6. Rhaid i’r Cynulliad fanteisio ar bob opsiwn amgen yn lle datganiad i’r wasg fel ffordd o hyrwyddo’i waith. Mae gan fapiau, ffeithluniau, blogiau, a chrynodebau byr y potensial i gyfleu negeseuon anodd mewn ffordd gofiadwy.
  7. Dylid cael adran benodedig hawdd ei defnyddio ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar blatfform Hwb, gydag adnoddau ar gyfer addysgu sy’n gysylltiedig ag anghenion y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
  8. Dylai’r Cynulliad feithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach Cymru i’w gwneud yn haws ymgysylltu â’r Cynulliad ac archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu MOOC (Cwrs Ar-lein Agored Enfawr) am ei waith.
  9. Dylid mabwysiadu’r platfformau cyfryngau cymdeithasol sydd fwyaf addas i ymgysylltu â phobl ifanc a dysgwyr. Dylai’r Cynulliad groesawu’r potensial ar gyfer ymgysylltu digidol gan ddefnyddio platfformau eraill fel Skype, Facetime, realiti rhith neu realiti estynedig.
  10. Dylid meddwl mwy am brofiad ymwelwyr yn ystâd y Cynulliad – y tu allan a’r tu mewn yn y Senedd a’r Pierhead – gan gynnwys tafluniadau, waliau fideo, realiti rhith a realiti estynedig ar yr ystâd.
Rydym hefyd yn argymell bod dathlu 20 mlynedd, yn 2019, ers sefydlu’r Cynulliad yn cael lle canolog mewn ymgyrch i hyrwyddo straeon datganoli, ac  yn argymell i’r Llywydd y dylai ystyried trefnu Gŵyl Ddemocratiaeth Cymru i gyd-fynd â’r pen-blwydd hwnnw. person-yn-defnyddio-iphone-am-gyfryngau-cymdeithasol Wrth bleidleisio dros Gynulliad Cenedlaethol ugain mlynedd yn ôl, creodd pobl Cymru sefydliad democrataidd newydd sy’n gweithredu, mae’n deg dweud, mewn byd cyhoeddus darniog. Er i’r Cynulliad Cenedlaethol ddechrau    pan oedd ein cyfryngau yn datblygu dulliau digidol, aethom ati mewn gwirionedd i greu llywodraeth gyhoeddus newydd yng Nghymru heb fod gan Gymru fyd cyhoeddus cydgysylltiedig. Nid ein gwaith ni fel grŵp oedd ystyried y cyfryngau yng Nghymru a’u heriau strwythurol – mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn ystyried hynny eu hunain. Ein tasg ni oedd helpu’r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu sut orau i feithrin deialog ddwys, ddiffuant a pharhaus gyda phobl Cymru. Dyma’n hadroddiad. Ymlaen â’r drafodaeth! lawrlwytho-adroddiad-tasglu-digidol