Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ym mis Ebrill 2022 ac mae wedi’i diweddaru i adlewyrchu cynnydd ymchwiliad y Senedd i anghydraddoldebau iechyd meddwl.
Gall unrhyw un gael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Bydd 1 o bob 4 ohonom yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau.
Fodd bynnag, mae ystadegau fel hyn yn cuddio'r ffaith bod rhai grwpiau o bobl mewn mwy o berygl o iechyd meddwl gwael nag eraill.
Mae grwpiau sy’n agored i niwed yn cynnwys pobl mewn tlodi, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl hŷn, plant a phobl ifanc, pobl sy’n nodi eu bod yn LHDTC+, a phobl niwroamrywiol ymhlith eraill.
Mae eu 'risg' iechyd meddwl yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas - mae'r rhai sy'n wynebu anfantais a gwahaniaethu yn llawer mwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl. Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn edrych ar yr anghydraddoldebau iechyd meddwl hyn yng Nghymru.
Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn edrych ar bwy sy’n wynebu risg uwch o salwch meddwl a’r rhwystrau y mae’r grwpiau hynny’n eu hwynebu. Bydd hefyd yn ystyried a yw polisïau presennol Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i gydnabod yr anghenion cyfredol a mynd i’r afael â’r anghenion hynny.
‘Rhwystr triphlyg’ anghydraddoldeb iechyd meddwl
Yn ôl y Ganolfan Iechyd Meddwl, mae anghydraddoldeb iechyd meddwl yn ‘rhwystr triphlyg’ sy'n effeithio ar bobl o wahanol rannau o'r boblogaeth:
Mae'r 'rhwystr triphlyg' hwn yn tynnu sylw at y canlynol:
- Mae rhai grwpiau o bobl yn wynebu risg anghymesur o iechyd meddwl gwael. Yn aml, mae hyn yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach mewn cymdeithas.
- Gall y grwpiau sydd â lefelau arbennig o uchel o iechyd meddwl gwael wynebu’r anawsterau mwyaf o ran mynediad at wasanaethau.
- Pan fyddant yn cael cefnogaeth, mae eu profiadau a'u canlyniadau yn aml yn waeth.
Nid yw’r anghydraddoldebau hyn yn newydd, ond cafodd y pandemig COVID-19 effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl ac mae wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau hyn a oedd eisoes yn bodoli.
Mae'r Pwyllgor yn edrych ar yr anghydraddoldebau hyn yn y gobaith y gall sbarduno newid drwy ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a phob sector o gymdeithas.
Cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig
Gall pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig wynebu hiliaeth a gwahaniaethu yn eu bywyd bob dydd, a all gael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl a'u lles.
Wrth ymweld â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru yn Abertawe clywodd y Pwyllgor fod pobl sy'n cysylltu â’r Tîm yn aml yn wynebu sawl her, a gall fod yn anodd i staff wybod pa fater i fynd i'r afael ag ef gyntaf.
Er enghraifft, gall pobl fod yn cael problemau gyda'u hiechyd neu dai, neu rwystrau i addysg a chyflogaeth, sy'n effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl.
I staff sy’n gweithio yn y ganolfan, mae hyn yn aml yn golygu gorfod darparu gwasanaethau y tu allan i'w rôl graidd gan nad oes gwasanaethau eraill i ddiwallu anghenion amrywiol cymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Gall darparu gwasanaeth cyfieithu neu gwnsela ar gyfer pobl sydd wedi cael profiad trawmatig effeithio ar staff, gan fod hynny’n aml yn peri iddynt ail-fyw eu profiadau trawmatig eu hunain. Gall hynny effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant eu hunain.
"Nid yw cyfleoedd hyfforddi yn bodoli"
Wrth gymryd rhan mewn grwpiau ffocws, dywedodd pobl sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol wrth y Pwyllgor eu bod yn teimlo bod diffyg ffocws ar anghenion hyfforddi. Mae cymaint o bwysau ar y gweithlu nawr fel nad yw cyfleoedd hyfforddi yn bodoli mwyach gan na ellir rhyddhau pobl i fynychu. Mae rhai yn cael trafferth hyd yn oed gwneud hyfforddiant gorfodol.
Roeddent yn teimlo bod hyn yn llesteirio datblygiad hanfodol y gweithlu, yn enwedig wrth gefnogi cymunedau amrywiol.
Dywedodd aelod o staff, “cawsom ni berson ifanc [o’r gymuned drawsryweddol] yn eithaf diweddar, ac fe dynnodd hynny sylw at y diffyg ymwybyddiaeth sydd gennym o'r materion diwylliannol o fewn y gymuned benodol honno”.
“Felly, dwi’n meddwl petaech chi’n gofyn…sut ydych chi’n teimlo? A ydych yn barod i ymateb i’r her? Rwy’n meddwl y bydden nhw i gyd yn dweud y bydden nhw’n elwa ar gael mwy o hyfforddiant i allu cefnogi ein cleifion a’u teuluoedd yn well.”
Mae adroddiad sy’n crynhoi’r hyn a glywyd gan y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol wedi’i gyhoeddi ar wefan y Senedd.
"Diffyg dull strategol"
Wrth ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus, dywedodd Penny, sy'n gweithio gyda phlant ag ADHD, y gall pobl ag ADHD deimlo eu bod wedi'u dieithrio a'u gwrthod gan gymdeithas, gan eu gadael yn agored i iselder a phryder, yn enwedig lle nad oes diagnosis o’r cyflwr neu ei fod wedi cael ei ddiystyru.
Mae'n teimlo nad yw ADHD yn cael ei gydnabod fel y broblem iechyd cyhoeddus sylweddol ydyw, ac mae am weld dull strategol trosfwaol gan Lywodraeth Cymru o ddatblygu polisïau i gefnogi hyn.
Beth sydd wedi digwydd yn yr ymchwiliad hyd yma?
Yn gynharach yn y flwyddyn, lansiodd y Pwyllgor alwad gyhoeddus am dystiolaeth.
Ymatebodd dros 90 o bobl a sefydliadau, ac mae bron i 80 o bobl sydd â phrofiad byw o anghydraddoldebau iechyd meddwl wedi cymryd rhan mewn grwpiau ffocws.
Daeth pedair thema i'r amlwg o'r dystiolaeth a'r trafodaethau. Bu’r Pwyllgor yn trafod y rhain yn fanylach dros yr ychydig fisoedd diwethaf drwy gynnal sesiynau tystiolaeth lafar, ymgysylltu â’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Dyma'r themâu:
- Iechyd meddwl a chymdeithas
Achosion ehangach afiechyd meddwl, a sut y gall y ffordd yr ydym yn gweithredu fel cymdeithas ddylanwadu ar ein hiechyd meddwl a'n llesiant. - Atebion cymunedol
Rôl cymunedau wrth hybu a chefnogi iechyd meddwl, gan gynnwys presgripsiynu cymdeithasol. - Effaith anghydraddoldeb iechyd meddwl ar bobl â chyflyrau niwroamrywiol
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall rhai o'r rhwystrau a brofir gan y grŵp hwn, fel diffyg gwasanaethau cydgysylltiedig, diffyg ymwybyddiaeth a hyfforddiant, a chysgodi diagnostig, gael eu profi gan grwpiau a chymunedau eraill hefyd. Felly, bydd edrych ar brofiad pobl sydd â chyflyrau niwroamrywiol hefyd yn helpu’r Pwyllgor i ddeall themâu ehangach sy'n effeithio ar grwpiau eraill. - Rôl y gweithlu gofal iechyd a’r gweithlu ehangach
Edrych ar ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chydraddoldeb ar draws y gweithlu gofal iechyd cyfan, gan gynnwys hyfforddiant, gweithio cydgysylltiedig o fewn y gwasanaeth iechyd a chyda sefydliadau eraill. Bydd rôl meddygon teulu fel y 'drws ffrynt' i wasanaethau iechyd meddwl hefyd yn cael ei hystyried.
Fel bod profiad byw wrth wraidd yr ymchwiliad, mae grŵp cynghori ar-lein wedi’i sefydlu i gynorthwyo'r Pwyllgor.
Mae’r grŵp yn cynnwys pobl o gymunedau amrywiol yng Nghymru sydd wedi cael profiad byw o anghydraddoldebau iechyd meddwl. Rôl y grŵp cynghori yw ystyried tystiolaeth a glywyd gan y Pwyllgor a rhoi adborth yn ystod hynt yr ymchwiliad.
Os oes gennych ddiddordeb, mae'r ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad cyhoeddus ac adroddiadau sy'n crynhoi canfyddiadau'r grwpiau ffocws wedi'u cyhoeddi ar wefan y Senedd. Gallwch hefyd wylio holl sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor yn fyw ac ar alw ar Senedd TV.
Eisiau dilyn yr ymchwiliad?
Os ydych am ddilyn yr holl ddatblygiadau diweddaraf yn yr ymchwiliad i Anghydraddoldebau Iechyd Meddwl, gallwch:
- ddilyn yr ymchwiliad ar ein gwefan;
- cael y wybodaeth ddiweddaraf ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol;
- tanysgrifio i erthyglau Ymchwil y Senedd.
Er bod yr ymchwiliad yn dal i fynd rhagddo, disgwylir adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn cyflwyno’r dystiolaeth a glywyd ac yn amlinellu’r hyn y maent am i Lywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.
Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Senedd pan fydd ar gael.