Prif Weinidog Mark Drakeford AS

Prif Weinidog Mark Drakeford AS

A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl?

Cyhoeddwyd 04/04/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae ei ymchwiliad yn edrych ar ba grwpiau o bobl sydd fwyaf tebygol o brofi anghydraddoldebau iechyd meddwl a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu.

Bydd hefyd yn ystyried a yw polisïau Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i gydnabod yr anghenion cyfredol a mynd i’r afael â’r anghenion hynny.

‘Rhwystr triphlyg’ Anghydraddoldeb Iechyd Meddwl

Yn ôl y Ganolfan Iechyd Meddwl [1], mae anghydraddoldeb iechyd meddwl yn rhwystr triphlyg sy'n effeithio ar nifer fawr o bobl o wahanol rannau o'r boblogaeth:

Mae'r 'rhwystr triphlyg' hwn yn tynnu sylw at y canlynol:

  • Mae rhai grwpiau o bobl yn wynebu risg anghymesur o iechyd meddwl gwael. Yn aml, mae hyn yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach mewn cymdeithas.
  • Gall grwpiau sydd â lefelau arbennig o uchel o iechyd meddwl gwael wynebu’r anawsterau mwyaf o ran mynediad at wasanaethau.
  • Pan fyddan nhw yn cael cefnogaeth, mae eu profiadau a'u canlyniadau yn aml yn waeth.

Nid yw'r anghydraddoldebau hyn yn newydd. Roedd y rhain yn bodoli cyn COVID-19, ond mae'r pandemig wedi eu gwaethygu.

Mae'r Pwyllgor yn edrych ar yr anghydraddoldebau presennol hyn yn y gobaith o sbarduno newid drwy ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a phob sector o gymdeithas.

Beth sydd wedi digwydd yn yr ymchwiliad hyd yn hyn?

Yn gynharach yn y flwyddyn, lansiodd y Pwyllgor alwad gyhoeddus am dystiolaeth i glywed gan bobl, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru.

Mae dros 90 o bobl a sefydliadau wedi rhannu eu barn yn ysgrifenedig, ac mae bron i 80 o bobl sydd â phrofiad byw o anghydraddoldebau iechyd meddwl wedi cymryd rhan mewn grwpiau ffocws.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi trafod y materion gyda sefydliadau iechyd meddwl a'r Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn.

Os oes gennych ddiddordeb, mae'r ymatebion ysgrifenedig ac adroddiad sy'n crynhoi canfyddiadau'r grwpiau ffocws wedi'u cyhoeddi ar wefan y Senedd [2]. Gallwch hefyd wylio holl sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor yn fyw ac ar alw ar Senedd TV.

'Diffyg dull strategol'

 Wrth ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus, dywedodd Penny, sy'n gweithio gyda phlant ag ADHD, wrthym y gall pobl ag ADHD deimlo eu bod wedi'u dieithrio a'u gwrthod gan gymdeithas, gan eu gadael yn agored i iselder a phryder, yn enwedig lle nad oes diagnosis o’r cyflwr neu ei fod wedi cael ei ddiystyru.

Mae'n teimlo nad yw ADHD yn cael ei gydnabod fel y broblem iechyd cyhoeddus sylweddol ydyw, ac mae am weld dull strategol trosfwaol gan Lywodraeth Cymru o ddatblygu polisïau i gefnogi hyn.

Aros naw mis

Dywedodd Tanya, a geisiodd gyngor gan ei meddyg teulu ar ôl teimlo bod rhywbeth o'i le, 'ar ôl ychydig o gwestiynau a phrawf gwaed dywedwyd wrthyf mai bywyd yr 21ain ganrif ydyw!' Yn ddiweddarach, canfu mai dechrau cyfod o iselder difrifol ydoedd, na chafodd ei gadarnhau am bum mis arall.

Er y diagnosis bu'n rhaid i Tanya aros hyd at 9 mis i gael cwnsela, a hyd yn oed wedyn dim ond 6 sesiwn ydoedd, a dim arall.

Mae'n teimlo y dylai meddygon teulu ddilyn hyfforddiant manylach ar iechyd meddwl ac y dylid gallu cael gafael ar gwnsela yn llawer cyflymach.

Beth nesaf i’r ymchwiliad?

Mae Pwyllgor y Senedd nawr yn bwriadu archwilio pedair thema a ddaeth i’r amlwg o'r alwad gyhoeddus am dystiolaeth a grwpiau ffocws ledled Cymru. Y rhain yw:

  1. Iechyd meddwl a chymdeithas
    Achosion ehangach afiechyd meddwl, a sut y gall y ffordd rydym yn gweithredu fel cymdeithas ddylanwadu ar ein hiechyd meddwl a'n llesiant.
  2. Datrysiadau cymunedol
    Rôl cymunedau wrth hybu a chefnogi iechyd meddwl, gan gynnwys rhagnodi cymdeithasol. 
  3. Effaith anghydraddoldeb iechyd meddwl ar bobl â chyflyrau niwroamrywiol
    Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall rhai o'r rhwystrau a brofir gan y grŵp hwn, fel diffyg gwasanaethau cydgysylltiedig, diffyg ymwybyddiaeth a hyfforddiant, a chysgodi diagnostig, gael eu profi gan grwpiau a chymunedau eraill hefyd. Felly, bydd edrych ar brofiad pobl sydd â chyflyrau niwroamrywiol hefyd yn helpu’r Pwyllgor i ddeall themâu ehangach sy'n effeithio ar grwpiau eraill. 
  4. Rôl y gweithlu gofal iechyd a’r gweithlu ehangach
    Edrych ar iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ar draws y gweithlu gofal iechyd, gan gynnwys hyfforddiant, gweithio cydgysylltiedig o fewn y gwasanaeth iechyd a chyda sefydliadau eraill. Bydd rôl meddygon teulu fel y 'drws ffrynt' i wasanaethau iechyd meddwl hefyd yn cael ei hystyried. 

Drwy gydol y gwanwyn a'r haf eleni bydd y Pwyllgor yn clywed gan ystod eang o leisiau gan gynnwys pobl sydd â phrofiad proffesiynol a phrofiad byw.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd y Pwyllgor yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru am y materion y mae’n dod ar eu traws fel rhan o'i ymchwiliad.

Grŵp cynghori

Bydd grŵp cynghori ar-lein yn cael ei sefydlu i gynorthwyo'r Pwyllgor fel bod profiad byw wrth wraidd yr ymchwiliad.

Bydd y grŵp o 10-15 yn cynnwys pobl sydd â phrofiad byw o anghydraddoldebau iechyd meddwl ac yn dod o amrywiaeth o gymunedau Cymru.

Gofynnir iddynt ystyried tystiolaeth a glywir gan y Pwyllgor ar adegau penodol yn ystod yr ymchwiliad a rhoi adborth.

Dilyn yr ymchwiliad

Dilynwch yr holl ddatblygiadau diweddaraf yn yr ymchwiliad i Anghydraddoldebau Iechyd Meddwl drwy:

 


 

[1] Y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl: Taflen wybodaeth anghydraddoldebau iechyd meddwl

[2] Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad ar anghydraddoldebau iechyd meddwl