Sut gall cymunedau a chymdeithas hybu a chefnogi ein hiechyd meddwl a’n llesiant?

Cyhoeddwyd 05/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2022   |   Amser darllen munudau

Anghydraddoldebau Iechyd Meddwl

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae ei ymchwiliad yn edrych ar ba grwpiau o bobl sydd fwyaf tebygol o brofi anghydraddoldebau iechyd meddwl a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu.

Bydd hefyd yn ystyried a yw polisïau Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i gydnabod yr anghenion cyfredol a mynd i’r afael â’r anghenion hynny.

Yn y sesiwn dystiolaeth hon, trafodwyd sut y gall cymunedau a chymdeithas hyrwyddo a chefnogi ein hiechyd meddwl a'n llesiant.

Rhoddodd y bobl a ganlyn dystiolaeth:

  • Yr Athro Rob Poole, Athro Seiciatreg Gymdeithasol - Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor
  • Ewan Hilton, Prif Weithredwr – Platfform
  • Dr Jen Daffin, Seicolegydd Clinigol Cymunedol - Seicolegwyr dros Newid Cymdeithasol

Dilyn yr ymchwiliad

Cadwch i fyny â'r holl ddatblygiadau diweddaraf yn yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl.

Rhagor o wybodaeth