Cyhoeddwyd 03/12/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, rydym am eich hysbysu am rywfaint o'r gefnogaeth sydd ar gael gennym ar gyfer pobl anabl.
Rydym yn arddel y
model cymdeithasol o anabledd. Mae’r model cymdeithasol yn edrych ar y rhwystrau y mae cymdeithas yn eu gosod rhwng pobl anabl a’u mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Mae'n ceisio dileu rhwystrau diangen sy'n atal pobl anabl rhag cymryd rhan yn y gymdeithas, rhag cael gwaith a rhag byw'n annibynnol. Mae'r model cymdeithasol yn ceisio ffyrdd o gael gwared ar rwystrau i gynhwysiant. Mae hefyd yn cydnabod y gall agweddau at anableddau greu rhwystrau diangen i gynhwysiant ac mae'n mynnu bod pobl yn cymryd camau i ddileu'r rhwystrau hyn.
[caption id="attachment_1097" align="alignleft" width="104"]
Logo yn gadarn o blaid pobl anabl[/caption]
Er mwyn annog pobl anabl i wneud cais, rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer pobl anabl. Mae'r cynllun yn gwarantu cyfweliad i bobl anabl sy’n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd wag. Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i'r ymgeiswyr anabl sy'n cael cyfweliad.
Ar gyfer ein staff anabl:
- Mae ein polisïau staff yn cynnwys pobl anabl. Er enghraifft, mae ein polisi urddas yn y gweithle yn un cadarn er mwyn delio ag ymddygiad amhriodol.
- Mae gennym rwydwaith staff anabledd gweithgar o'r enw EMBRACE. Mae EMBRACE yn rhoi cefnogaeth cymheiriaid i staff anabl ac mae'n ein helpu i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl. Mae hefyd yn ein helpu i ystyried anghenion pobl anabl yn ein penderfyniadau ac wrth gynllunio polisïau.
- Rydym yn darparu hyfforddiant sy'n ymwneud ag anabledd, gan gynnwys hyfforddiant i gefnogi staff ac ymwelwyr anabl, ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a hyfforddiant BSL, hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth, a hyfforddiant dementia-gyfeillgar.
- Mae gennym Nyrs Iechyd Galwedigaethol ar y safle a mynediad i Raglen Cymorth i Weithwyr sy'n gallu darparu gwasanaethau cwnsela i staff.
[caption id="attachment_1095" align="alignnone" width="1000"]
Logo Embrace, ein rhwydwaith staff ag anabledd[/caption]
Dyma beth sydd gan rai aelodau anabl o'r staff i’w ddweud am eu profiad o weithio yma:
- "Mae parodrwydd y Cynulliad i ymgysylltu ag Embrace yn gwneud imi deimlo ei fod yn gwerthfawrogi fy marn a'm profiadau fel aelod anabl o'r staff. Rwy'n falch o fod yn aelod o'r rhwydwaith ac yn teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i'r sefydliad a'i staff."
- "Mae fy anabledd yn effeithio'n enfawr ar fy symudedd ac mae'n effeithio ar fy mywyd gwaith. Mae'r gefnogaeth mae’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch wedi ei rhoi i mi wedi bod yn rhagorol. Maen nhw wedi darparu cyfarpar ar fy nghyfer i wneud fy niwrnod gwaith yn llai poenus ac felly yn fwy cynhyrchiol. Mae'r gefnogaeth barhaus a gaf ganddynt yn fy helpu i gadw i weithio ac rwy'n eithriadol o ddiolchgar iddyn nhw."
- "Mae'r Nyrs Iechyd Galwedigaethol wedi fy nghefnogi i; cefais fy nghwnsela a therapi rheoli straen drwy'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae'r dosbarthiadau Techneg Alexander hefyd wedi bod yn fuddiol dros ben. Heb hyn oll, rwy'n amau a fyddwn yn dal i fod yn gweithio'n amser llawn, os o gwbl."
Ar gyfer ymwelwyr, rydym yn sicrhau bod ein hadeiladau'n hygyrch ac yn groesawgar i bobl anabl.
- Mae gennym lifftiau ym mhob rhan o'n hadeiladau
- Mae parcio hygyrch ar gael;
- Mae systemau dolen ym mhob rhan o'n hadeiladau;
- Mae pob un o'n staff Cyswllt Cyntaf a'n staff Diogelwch wedi cael hyfforddiant ynghylch cefnogi ymwelwyr anabl;
- Mae gennym Hyrwyddwyr Awtistiaeth drwy'r sefydliad i groesawu pobl ag awtistiaeth;
- Mae rhai o'n staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o fod yn fyddar ac Iaith Arwyddion Prydain;
- Mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau toiled, gan gynnwys cyfleuster Lleoedd Newid, gyda gwely a theclyn codi.
Yn ogystal, mae gennym dimau allgymorth, addysg ac ymgysylltu ag ieuenctid sy'n cyfarfod â phobl anabl ledled Cymru i'w hysbysu am waith y Cynulliad ac i wrando ar eu barn ar y materion sy'n bwysig iddynt.
[caption id="attachment_1090" align="alignnone" width="960"]
Llun o aelodau’r Grŵp Cymysg, sef grŵp o bobl ifanc ag anableddau o Abertawe[/caption]
Cawsom gydnabyddiaeth gan sefydliadau allanol sy'n dathlu ein hygyrchedd.
- Mae Action on Hearing Loss wedi dyfarnu Marc Siartr Yn Uwch na Geiriau i ni oherwydd ein hymrwymiad i gefnogi staff ac ymwelwyr sy'n fyddar neu sydd â nam ar y clyw. Rydym hefyd wedi ennill gwobr arian yng ngwobrau Rhagoriaeth Action on Hearing Loss Cymru.
[gallery ids="1096,1092" type="rectangular"]
[caption id="attachment_1091" align="alignnone" width="712"]
Llun o bobl yn dathlu cyflwyno Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth i’r Cynulliad[/caption]
[caption id="attachment_1094" align="alignnone" width="2868"]
Logo Gwobr Mynediad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth[/caption]