Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl - 3 Rhagfyr (03/12/2017)

Cyhoeddwyd 03/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (IDDP) bob blwyddyn i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl, i helpu i dorri rhwystrau ac i gefnogi urddas, hawliau a lles pobl anabl. Yn y Cynulliad, rydym yn falch o fod yn gyflogwr hygyrch ac yn ddarparwr gwasanaethau hygyrch. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff anabl ac yn cydnabod manteision ymgysylltu â phobl anabl ledled Cymru wrth wneud ein gwaith. Eleni, rydym yn ymfalchïo y byddwn yn ymuno â chymuned o weithwyr anabl, rhwydweithiau a sefydliadau anabledd, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl drwy oleuo’r Senedd yn borffor. [caption id="attachment_3038" align="aligncenter" width="490"]Y Senedd wedi'i goleuo'n borffor Y Senedd wedi'i goleuo'n borffor[/caption] Fel cyflogwr, rydym yn cefnogi anghenion ein staff anabl yn llawn drwy ddarparu addasiadau yn y gweithle, fel amrywiol opsiynau ar gyfer gweithio’n hyblyg, yn darparu offer penodol i ddiwallu eu hanghenion neu’n addasu eu sbardunau absenoldeb oherwydd salwch. Mae gennym hefyd bolisïau staff cefnogol fel y polisi iechyd meddwl, a mynediad at Nyrs Iechyd Galwedigaethol ar y safle, rhwydwaith staff anabledd prysur, sef EMBRACE, a mynediad at wasanaethau cwnsela a chynghori. Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn dathlu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl, gan gynnwys y Diwrnod Mynediad i Bobl Anabl a’r Diwrnod Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl. Lansiwyd ein Rhwydwaith Iechyd Meddwl yn ddiweddar i’n helpu i hyrwyddo iechyd meddwl a lles yn ein sefydliad. [caption id="attachment_3039" align="aligncenter" width="346"]Llun o Karen, cyd-Gadeirydd Rhwydwaith Mindful y Cynulliad, gydag Alex a Dora, y ci therapi. Llun o Karen, cyd-Gadeirydd Rhwydwaith Mindful y Cynulliad, gydag Alex a Dora, y ci therapi.[/caption] Dyma ddyfyniadau gan rai o’n staff anabl sy’n amlinellu’r gefnogaeth a gânt:

• "Dydw i ddim yn teimlo’n anabl pan rwy’n dod i’r gwaith am fy mod i’n cael fy mharchu ac mae fy sgiliau’n cael eu gwerthfawrogi." • "Mae parodrwydd y Cynulliad i ymgysylltu â’r rhwydwaith staff i bobl anabl yn gwneud imi deimlo ei fod wir yn gwerthfawrogi fy marn a’m profiadau. Rwy’n teimlo fy mod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i’r sefydliad a’i staff." • "Mae cefnogaeth barhaus y tîm iechyd a diogelwch wedi ei gwneud yn haws i mi ddod i’r gwaith."

Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer pobl anabl wedi cael ei gydnabod gan nifer o gyrff allanol. Rydym wedi:

• ein henwi yn gyflogwr anabledd Hyderus, • ennill y Marc Siarter yn Uwch na Geiriau gan Action on Hearing Loss, a chael un o’u Gwobrau Rhagoriaeth Cymru, a • ein hachredu gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol fel sefydliad Awtistiaeth Gyfeillgar.

  [caption id="attachment_3047" align="aligncenter" width="583"]Autisim-Friendly-Senedd-image Llun o’r Senedd a logo bod yn ystyriol o bobl ag awtistiaeth’[/caption] Yn ddiweddar, cawsom ein hachredu fel sefydliad sy’n Gyfeillgar i Awtistiaeth. Dywedodd Joyce Watson AC, yr Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am gydraddoldeb yng Nghomisiwn y Cynulliad:   "Rydym wrth ein bodd o gael ein cydnabod unwaith eto fel sefydliad sy’n mynd i’r afael â mynediad cyfartal yn ddifrifol iawn. Rydyn ni yma i gynrychioli holl bobl Cymru ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn hygyrch i bawb. " Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n darparu eiddo, staff a gwasanaethau ar gyfer y Cynulliad a’i Aelodau. Meddai Ann Jones AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad: "Mae cydweithio ag Embrace a’n partneriaid allanol yn hanfodol bwysig, gan ei fod yn ein helpu i gadw at yr arferion gorau o ran dileu rhwystrau o ran mynediad a chynhwysiant. Mae hyn yn ein helpu ni fel sefydliad i sicrhau y byddwn yn gwneud gwelliannau cynaliadwy ac ystyrlon ar gyfer ein staff a phobl Cymru." Os hoffech wybod mwy am y Cynulliad, gallwch edrych ar ein gwefan, neu dilynwch ni ar Twitter neu Facebook. Mae gwybodaeth am weithio yn y Cynulliad ar gael hefyd ar ein gwefan. Mae gwybodaeth i ymwelwyr sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth ar gael ar ein tudalennau pwrpasol. Os hoffech gysylltu â’r Tîm Amrywiaeth, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost yn Amrywiaeth@cynulliad.cymru neu dros y ffôn ar 0300 200 7455. Rydym yn croesawu galwadau drwy gyfnewidfa testun a gallwn ddarparu gwybodaeth mewn fformatau eraill ar gais.