Mae endometriosis yn gyflwr cronig ac yn aml yn wanychol, a all effeithio'n sylweddol ar fywydau'r rhai sydd â’r cyflwr. Yn ddiweddar, mae'r Senedd wedi cymryd y cam o gofrestru i Gynllun Endometriosis UK - Cyflogwr Cyfeillgar i Endometriosis, gan gefnogi cydweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyflwr hwn.
Mae Beth Hales, Dirprwy Glerc yn y Senedd, yn rhannu ei phrofiad personol o fyw gydag endometriosis.
Deall endometriosis
Mae'n bosibl nad ydych wedi clywed am endometriosis er ei fod yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar 1 o bob 10 menyw, merch a phobl a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni. Mae’r gyfradd hon yn debyg i nifer y bobl sy’n dioddef o ddiabetes neu asthma cronig.
Mae achosion endometriosis yn parhau’n anhysbys, nid oes iachâd a gall gymryd 10 mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis o’r cyflwr yng Nghymru.
Gydag endometriosis, mae celloedd tebyg i'r rhai sydd yn haen fewnol y groth i'w cael mewn mannau eraill yn y corff. Mae'r celloedd neu'r 'anafodau' (“lesions” yn Saesneg) hyn yn achosi llid a gwaedu cyfyngedig, gan arwain at enyniad (“inflammation”) a ffurfio meinwe creithiau a elwir yn adlyniadau (“adhesions”). Gall adlyniadau fod yn ddigon trwchus a gludiog i dynnu organau allan o’u lle neu eu glynu at ei gilydd, gan arwain at boen a chamweithrediad organau (a all hefyd arwain at anffrwythlondeb).
Cefais ddiagnosis o’r cyflwr hwn yn 2015, ar ôl bron i 20 mlynedd o symptomau gynaecolegol a thair blynedd o frwydro ag anffrwythlondeb. Yn fy arddegau, dywedwyd wrthyf fod misglwyfau poenus yn rhywbeth y dylai merched ddysgu i’w dioddef, a dim ond pan oeddwn yn fy ugeiniau hwyr, pan aeth fy ngŵr a minnau i weld y meddyg teulu i drafod ein heriau ag anffrwythlondeb, y dechreuais ar y llwybr tuag at ddiagnosis.
Ers hynny, rwyf wedi cael tair llawdriniaeth i helpu i drin y cyflwr drwy dynnu meinwe creithiau o fy ofarïau, fy nghroth, fy mhledren a'm coluddyn, oherwydd llawdriniaeth laparosgopig yw’r unig driniaeth sydd ar gael ar gyfer endometriosis ar hyn o bryd.
Goblygiadau ehangach
Mae’r rhwystrau a’r oedi y mae menywod yn parhau i’w hwynebu wrth geisio cael diagnosis neu gael mynediad at driniaeth yn effeithio’n andwyol ar gymdeithas ar sawl lefel. Er enghraifft, mae merched yn colli addysg wrth iddynt aros am ddiagnosis; mae menywod yn colli cyfleoedd i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd wrth iddynt aros am driniaeth; ac mae'r goblygiadau ariannol yn enfawr, gydag adroddiad Cydffederasiwn y GIG ar economeg iechyd menywod yn amcangyfrif mai cost economaidd absenoldeb oherwydd cyflyrau fel endometriosis yw bron i £11 biliwn y flwyddyn.
Felly mae'n bwysicach nag erioed o’r blaen i'r bobl sy'n dioddef o’r cyflwr hwn allu cael cymorth gan eu cyflogwr. Gellir sicrhau bod y cymorth hwn ar gael gyda chefnogaeth Endometriosis UK drwy gofrestru ar gyfer y Cynllun Cyflogwyr Endometriosis Gyfeillgar. Trwy'r cynllun hwn, mae Endometriosis UK yn darparu canllawiau i gyflogwyr ar sut i gefnogi cyflogeion sydd ag endometriosis, a gweithio tuag at wella'r amgylchedd gwaith.
Creu amgylchedd cefnogol
Mae Senedd Cymru wedi ymuno â’r cynllun ac rwyf wedi cael profiad uniongyrchol o’r cymorth amhrisiadwy y mae’r sefydliad yn ei gynnig – mae opsiynau gweithio hyblyg ar gael, yn ogystal â chymorth iechyd galwedigaethol ac ystod o addasiadau rhesymol y mae modd eu gwneud i sicrhau y gellir rheoli’r cyflwr.
Yn ystod mis Mawrth, cynhelir sesiynau hyfforddi ar gyfer yr uwch dîm arwain a threfnir sesiynau ‘cinio a dysgu’ ar gyfer holl staff Comisiwn y Senedd i sicrhau bod gwybodaeth am endometriosis yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
Bydd newid y diwylliant mewn gweithleoedd yn helpu i normaleiddio trafodaethau am gyflyrau gynaecolegol, ac yn helpu i leihau'r effaith y gall hyn ei chael ar yrfa yr unigolyn, sydd yn ei dro o fudd i'r cyflogwr hefyd.
Bydd y cyflwr hwn yn effeithio ar unigolion sy’n gweithio ym mhob busnes ledled Cymru, ac mae’r cymorth a’r gefnogaeth y gall y busnesau hyn eu darparu drwy ddod yn Gyflogwyr Endometriosis Gyfeillgar nid yn unig yn helpu’r person yn uniongyrchol, ond y bobl y mae’r clefyd hwn yn effeithio arnynt yn anuniongyrchol hefyd.
Mae endometriosis yn gyflwr di-baid, ac mae fy merched yn tyfu i fyny yn gweld drostynt eu hunain y boen y mae'n ei hachosi, ond gallant hefyd weld fy mod i'n llwyddo i fyw gyda'r cyflwr tra’n gweithio. Y rheswm am hyn yw ymrwymiad y Senedd i gefnogi staff sydd â salwch cronig fel endometriosis - felly, ar ran fy nheulu a minnau, diolch o galon i’r Senedd.
Mae'r Senedd yn falch o ymuno â Chynllun Endometriosis UK - Cyflogwr Cyfeillgar i Endometriosis, a chreu amgylchedd gwaith deallgar a chefnogol i'r rhai yr effeithir arnynt gan y cyflwr.
Dysgwch fwy am weithio i Gomisiwn y Senedd.
