Fel aelod o leiafrif - a yw eich hanes o bwys?
Cyhoeddwyd 15/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/02/2018
Fel rhan o'n gwaith i goffáu mis Hanes LGBT, mae ein blog gwadd wedi'i ysgrifennu gan Norena Shopland (@NorenaShopland), awdur Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales.
Pan gyhoeddwyd fy llyfr Forbidden Lives: LGBT stories from Wales ddiwedd y llynedd, un o'r cweistynau a ofynnwyd i mi oedd pam wnes i ei ysgrifennu.
Ni ofynnwyd y cwestiwn fel mater o ragfarn, ond oherwydd pryder am ba mor ddefnyddiol oedd gwaith a oedd yn canolbwyntio ar leiafrif o fewn lleiafrif gyda chynulleidfa yr oedd pobl yn tybio iddi fod yn gyfyngedig.
Ar yr olwg gyntaf, roedd yn ymddangos bod ganddynt bwynt - mae Cymru yn wlad fechan, gyda 4.8 y cant o boblogaeth y DU yn unig; ac o ystyried hanes, a yw hyd yn oed yn angenrheidiol diffinio bob person neud digwyddiad i fod yn Gymreig neu'n Seisnig? Wedi'r cyfan, mae cyfreithiau'r DU yn effeithio ar bawb, ac mae pawb mwy neu lai yn cael yr un profiadau o dan y cyfreithiau hynny.
Gellir gofyn yr un cwestiwn i leiafrifoedd eraill sy'n fwy, sydd prin yn fwy nag 20 y cant o'r boblogaeth megis pobl dduon a phobl o dras Asiaidd sydd tua 13 y cant. Er y gallwn gysylltu hanesion amrywiol ynddynt eu hunain, a oes angen trafod, er enghraifft, bobl Gymreig a phobl Seisnig sy'n ddu neu o dras Asiaidd mewn categorïau gwahanol?
Cyn ateb, hwyrach ei bod yn ddefnyddiol ystyried sut y gellid mynd o amgylch canfod yr unigolion ar y cofnod ysgrifenedig, a all fod yn dasg fawr ynddi'i hun, ac mae hyn yn rhywbeth y gwnes i daro arno wrth ysgrifennu Forbidden Lives. Un o'r rhesymau y mae gennyf ddiddordeb yn hanes LGBT fy ngwlad, sy'n 6-10 y cant o'r boblogaeth yn dibynnu ar ba ystadegau a gaiff eu defnyddio, yw gan i bobl o Gymru gael eu defnyddio yn hanes y DU heb unrhyw gyfeiriad at eu gwlad brodorol. Roedd hyn yn arbennig o amlwg wrth ddathlu Mis Hanes LGBT ym mis Chwefror wrth i bobl fel Ivor Novello, Menywod Llangollen, Leo Abse, a nifer o bobl eraill gael eu cynnwys yn y DU, neu'n amlach na hynny, y cyd-destun Seisnig.
Prin y mae llyfrau hanes LGBT yn cynnwys gwlad frodorol unigolyn, nac unrhyw gyfeiriad at Gymru neu bobl Cymru - rhywbeth sydd hefyd yn wir am wledydd eraill. Er enghraifft, bydd hanes LGBT llawer o wledydd yn cynnwys cyfeiriadau at, er enghraifft, waith ar rywoleg a wnaed yn yr Almaen ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond ni fydd yr Almaen yn ymddangos yn y mynegai fel y cyfryw. Pe hoffech sefydlu hanes yr Almaen o hanes yn gyffredinol, ni ellid gwneud hynny.