Fel aelod o leiafrif - a yw eich hanes o bwys?

Cyhoeddwyd 15/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/02/2018

Fel rhan o'n gwaith i goffáu mis Hanes LGBT, mae ein blog gwadd wedi'i ysgrifennu gan Norena Shopland (@NorenaShopland), awdur Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales. Pan gyhoeddwyd fy llyfr Forbidden Lives: LGBT stories from Wales ddiwedd y llynedd, un o'r cweistynau a ofynnwyd i mi oedd pam wnes i ei ysgrifennu. Ni ofynnwyd y cwestiwn fel mater o ragfarn, ond oherwydd pryder am ba mor ddefnyddiol oedd gwaith a oedd yn canolbwyntio ar leiafrif o fewn lleiafrif gyda chynulleidfa yr oedd pobl yn tybio iddi fod yn gyfyngedig. Ar yr olwg gyntaf, roedd yn ymddangos bod ganddynt bwynt - mae Cymru yn wlad fechan, gyda 4.8 y cant o boblogaeth y DU yn unig; ac o ystyried hanes, a yw hyd yn oed yn angenrheidiol diffinio bob person neud digwyddiad i fod yn Gymreig neu'n Seisnig? Wedi'r cyfan, mae cyfreithiau'r DU yn effeithio ar bawb, ac mae pawb mwy neu lai yn cael yr un profiadau o dan y cyfreithiau hynny. Gellir gofyn yr un cwestiwn i leiafrifoedd eraill sy'n fwy, sydd prin yn fwy nag 20 y cant o'r boblogaeth megis pobl dduon a phobl o dras Asiaidd sydd tua 13 y cant. Er y gallwn gysylltu hanesion amrywiol ynddynt eu hunain, a oes angen trafod, er enghraifft, bobl Gymreig a phobl Seisnig sy'n ddu neu o dras Asiaidd mewn categorïau gwahanol? Cyn ateb, hwyrach ei bod yn ddefnyddiol ystyried sut y gellid mynd o amgylch canfod yr unigolion ar y cofnod ysgrifenedig, a all fod yn dasg fawr ynddi'i hun, ac mae hyn yn rhywbeth y gwnes i daro arno wrth ysgrifennu Forbidden Lives. Un o'r rhesymau y mae gennyf ddiddordeb yn hanes LGBT fy ngwlad, sy'n 6-10 y cant o'r boblogaeth yn dibynnu ar ba ystadegau a gaiff eu defnyddio, yw gan i bobl o Gymru gael eu defnyddio yn hanes y DU heb unrhyw gyfeiriad at eu gwlad brodorol. Roedd hyn yn arbennig o amlwg wrth ddathlu Mis Hanes LGBT ym mis Chwefror wrth i bobl fel Ivor Novello, Menywod Llangollen, Leo Abse, a nifer o bobl eraill gael eu cynnwys yn y DU, neu'n amlach na hynny, y cyd-destun Seisnig. Prin y mae llyfrau hanes LGBT yn cynnwys gwlad frodorol unigolyn, nac unrhyw gyfeiriad at Gymru neu bobl Cymru - rhywbeth sydd hefyd yn wir am wledydd eraill. Er enghraifft, bydd hanes LGBT llawer o wledydd yn cynnwys cyfeiriadau at, er enghraifft, waith ar rywoleg a wnaed yn yr Almaen ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond ni fydd yr Almaen yn ymddangos yn y mynegai fel y cyfryw. Pe hoffech sefydlu hanes yr Almaen o hanes yn gyffredinol, ni ellid gwneud hynny.

Y benbleth o ran hanes LGBT Cymru

Oll y mae hyn yn ei olygu yw bod rhaid chwilio ymhell a thrwy sawl cyfrwng i sefydlu hanes LGBT Cymru. Rhywbeth arall sy'n anodd mewn perthynas â Chymru, yn annhebyg i wledydd eraill megis yr Almaen, yw bod pobl Cymru am lawer o'r bedwaredd ganrif a'r bymtheg a thu hwnt wedi cael eu cyfeirio atynt i fod yn Saeson. Fodd bynnag, wedi imi oresgyn sawl rhwystr i sefydlu'r bywydau a'r digwyddiadau sydd i'w cael yn Forbidden Lives, beth am y cwestiwn gwreiddiol sef 'pam mynd i'r holl drafferth'? Wedi'r cyfan, mae rhai o'r bobl yr wyf yn eu cynnwys eisoes yn ymddangos yn hanes y DU a, thra bod nifer o fy storïau i naill ai'n amlygu hanesion na wyddys amdanynt yn eang, neu sy'n gwbl newydd, pam na allent gael eu hychwanegu yn syml at hanes y DU? Wel, mi ellid gwneud hynny. Ond mae cwestiynau llawer pellach i'w cael. Dangosodd y llyfr fod pobl o Gymru wedi bod yn hynod o ddylanwadol wrth siapio hanes LGBT, megis Wolfenden a'r Ddeddf Troseddau Rhywiol - dau beth a newidiodd y gymdeithas gyfan. Beth a achosodd y Cymry hyn i fod mor ddylanwadol? Mewn gwirionedd, mae'r llyfr wedi codi cyfres gyfan o gwestiynau na ellir eu trafod yn fanwl yma, ond sy'n ymwneud â phrofiadau gwahanol i'r rhai a gafwyd yn Lloegr. Mae hefyd angen inni ymgysylltu'n fwy ag amgueddfeydd, archifdai, ysgolion a gyda phobl sy'n rhan o hanes LGBT, ac mae angen inni gael unigolion lleol i wneud hynny - po fwyaf o Gymry LGBT y gallwn ymgysylltu â nhw y gorau. Mae rhagor o ymgysylltu yn arwain at ddealltwriaeth well o amrywiaeth a llai o wahaniaethu. Felly, yn y diwedd, beth oedd fy ateb - pam mynd i'r holl drafferth? Oherwydd ar wahân i'r hanes a'r wleidyddiaeth, maent yn storïau da iawn - ac wedi'r cyfan, mae pawb yn hoff o stori dda! ********************************************************************************** Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Rydym wedi cael ein henwi gan Stonewall fel y Prif Gyflogwr yn y DU i bobl LGBT, Prif Gyflogwr i bobl Trawsryweddol, ac mae ein rhwydwaith gweithle wedi cael Cymeradwyaeth Uchel am eu gwaith. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT, cysylltwch â'r Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant. Logo Stonewall - Cyflogwr Y Flwyddyn Logo stonewall - Prif Gyflogwr Traws Logo Stonewall - Canmoliaeth Perfformwyr Disglair Logo Stonewall - Grwp Rhwydwaith Cymeradwyaeth Uchel