Galwadau Twyll CThEM a'r Cynulliad - Yr hyn mae angen i chi ei wybod

Cyhoeddwyd 20/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Efallai eich bod wedi gweld adroddiadau newyddion am alwyr twyllodrus yn esgus bod yn CThEM, gan ddefnyddio rhifau cyswllt Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roeddem am esbonio ychydig am yr hyn sy'n digwydd a'r hyn y gallwch ei wneud os byddwch yn derbyn un o'r galwadau hyn.

Ynglŷn â galwadau ffug

Mae negeseuon yn cael eu gadael gyda bygwth â chamau cyfreithiol, a gofynnir i'r derbynydd ffonio'r rhif yn ôl. Mae'r rhif wedyn yn arwain at un ohonom yma yn y Cynulliad. Yn anffodus, nid yw hyn yn gwbl gysylltiedig ag unrhyw un o'n systemau ac ni allwn atal hyn rhag digwydd.

Gelwir y math hwn o dwyll yn Saesne yn 'spoofing ’- lle gall twyllwr dwyllo'r rhwydwaith ffôn i roi ID galwr ffug i'r person sy'n derbyn yr alwad.

Mae'n fater sydd hefyd yn cael ei brofi gan sefydliadau eraill sydd â rhifau ffôn tebyg. Rydym wedi hysbysu'r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol ac Action Fraud o'r mater ac rydym hefyd yn gweithio gyda CThEM.

Beth i'w wneud os ydych chi'n derbyn galwad ffug

Os ydych chi wedi derbyn un o'r galwadau hyn, peidiwch â ffonio'r rhif yn ôl. Os ydych chi'n pryderu, gallwch gysylltu â CThEM efo'r manylion yn y neges isod:


https://twitter.com/HMRCgovuk/status/1134742905694896130?ref_src=twsrc%5Etfw%7Ctwcamp%5Etweetembed%7Ctwterm%5E1134742905694896130&ref_url=https%3A%2F%2Fwww.bbc.co.uk%2Fnews%2Fuk-wales-politics-48689477

Cysylltu efo'r Cynulliad Cenedlaethol

Os oes angen i chi cysylltu gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, gallwch neud trwy:

Ffôn: 0300 200 6565 - rydym yn croesawu galwadau gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth Next Generation Text (NGT)

SMS: 07970 493958

Ebost: cysylltu@cynulliad.cymru

Llenwi ein ffurflen gysylltu ar-lein

Facebook 

Twitter