Gweithdai Bil Tai (Cymru)
Cyhoeddwyd 30/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Yn ôl ym mis Gorffennaf bu i’r Prif Weinidog ein diweddaru, mewn Cyfarfod Llawn, ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth â’r 8 Bil fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn yma. Un o rhain oedd Bil Tai (Cymru).
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:
“Bydd yn cryfhau deddfwriaeth ddigartrefedd drwy roi mwy o bwyslais ar atal. Bydd yn gwella safonau yn y sector rhentu preifat drwy gyflwyno system drwyddedu ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod.
"Bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol godi cyfraddau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag tymor hir a bydd yn cynorthwyo datblygu tai cydweithredol. Bydd y Bil hefyd yn gosod safonau ar gyfer rhenti awdurdodau lleol, taliadau gwasanaeth ac ansawdd y llety. Bydd yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr, ac, yn dilyn cytundeb gyda’r Trysorlys, bydd y Bil yn diddymu system gymhorthdal y cyfrif refeniw tai, gan roi’r hyblygrwydd i awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn cartrefi tenantiaid.”
Bydd y Tîm Allgymorth yn cynnal 2 gweithdy yng ngogledd a de Cymru yn ystod mis Medi a mis Hydref.
Tŷ Hywel, Bae Caerdydd - 27 Medi 2013, 10:00 - 12:00
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Swyddfa’r Gogledd, Bae Colwyn - 1 Hydref 2013, 10:00 - 12:00.
Bydd y gweithdai hyn yn anelu i’ch helpu i ddeall sut mae deddfau yn cael eu gwneud yng Nghymru ac yn fwy pwysig sut allwch chi gael dweud eich dweud ar y Bil Tai (Cymru) gydag awgrymiadau a chynghorion defnyddiol.
I archebu eich lle ar un o’n gweithdai e-bostiwch archebu@cymru.gov.uk neu ffoniwch 0845 010 5500.
I weld y Prif Weinidog yn trafod y rhaglen deddfwriaethol yn ystod y Cyfarfod Lawn ym mis Gorffennaf, cliciwch yma.