Matthew Jones, Rheolwr Cynaliadwyedd
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Gaeaf
Fe wnaeth Gwenyn y Pierhead ymdopi â'r gaeaf yn dda – roeddent yn teneuo eu niferoedd ac yn cyd-dynnu am gynhesrwydd yn y cwch gwenyn, gan ei gadw'n dwym ar 30+ gradd yn y canol i amddiffyn eu brenhines. Fe wnaethon ni adael yr holl fêl yn y cychod gwenyn y llynedd gan nad oedden nhw wedi bod gyda ni am y tymor llawn, a hyd yn oed ategu eu deiet gyda rhywfaint o fondant iddyn nhw ei fwyta yn y gwanwyn heb orfod gadael y cychod gwenyn.
O’r Gwanwyn i'r Haf
Mae gwahanol bersonoliaethau'r cychod gwenyn wedi parhau i fod yn amlwg trwy gydol eu blwyddyn gyntaf. Mae Cwch Gwenyn Dau wedi bod yn llawer mwy bywiog pan oedd yn ceidwaid yn eu harchwilio, ond maen nhw hefyd wedi bod yn brysurach. Dechreuon nhw wneud digon o fwyd a chynyddu eu niferoedd eto yn gynnar yn y gwanwyn, tra bod Cwch Gwenyn Un yn dal i bwyllo ar ôl y gaeaf. Yn gymaint felly mewn gwirionedd nes i ni hyd yn oed orfod benthyg rhai fframiau bwyd o Gwch Dau i’w roi i'r gwenyn yng Nghwch Un; ie, gwobrwyo eu diogi!
Erbyn tymor yr haf, wrth i’r doreth o flodau dyfu, yn enwedig ar y darnau o dir heb eu datblygu o amgylch y Bae lle gall y gwenyn chwilota, roedd Cwch Un wedi dal y llall i fyny ac erbyn hynny roedd digon o stociau bwyd yn ddau gwch fel ei gilydd.
Parhau wnaeth y duedd hon, ac yn ddiweddar bu’n rhaid i ni ychwanegu haen ychwanegol i Gwch Un i storio holl fwyd y gwenyn, ac un arall ar gyfer eu nyth i gynnal yr holl wenyn bach ychwanegol y buon nhw’n eu gwneud.
Yn y cyfamser, newidiodd ymddygiad Cwch Dau yn sylweddol, gan lacio am gyfnod. Fe wnaethon ni sylwi eu bod wedi stopio gwneud wyau hefyd. Er y gall fod yn anodd gweld y frenhines wrth archwilio’r cychod, mae newid ymddygiad a phrinder wyau yn arwydd pendant nad yw'r frenhines yno mwyach. Yr wythnos ganlynol fe wnaethon ni sylwi ar gelloedd dwy frenhines wrth i’r cwch gwenyn geisio darparu ar gyfer olynu’r frenhines flaenorol (supersedure). Roedd yn rhaid i ni adael y ddau wy i ddeor, ac yn effeithlonrwydd didostur natur byddai'r ddwy frenhines yn brwydro yn erbyn ei gilydd, a dim ond y cryfaf fyddai’n goroesi.
Roedd yn rhaid inni ganiatáu i'r broses hon barhau; gan wasanaethu Cwch Un yn unig tra bod y frenhines yng Nghwch Dau yn gallu gadael ei chwch gwenyn, mynd i ffwrdd a pharu gyda gwryw o gwch gwenyn arall, a dychwelyd adref cyn setlo i lawr i ymgymryd â'i rôl newydd fel prif wenynes y cwch a dodwy wyau.
Cyfnod ansicr oedd hwn oherwydd gallai fynd ar goll neu hyd yn oed gael ei bwyta gan aderyn. Roeddem yn amlwg ar bigau drain yn aros iddi ddod yn ôl yn ddiogel. Roedd yn rhaid i'n ceidwaid fod yn amyneddgar ac osgoi aflonyddu ar y cwch gwenyn yn ystod yr amser tyngedfennol hwn. Talodd yr amynedd hwnnw ar ei ganfed serch hynny ac rydym yn falch o ddweud ein bod wedi dod o hyd i wyau newydd yng Nghwch Dau ddechrau mis Awst. Mae gwenyn bach eisoes yn cael eu gwneud ac mae gan y cwch gwenyn arweinyddes newydd i arwain ei gweithwyr.
Hir oes i frenhines y gwenyn!
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Gwenyn y Pierhead, e-bostiwch cynaliadwyedd@cynulliad.cymru