Joyce Watson: " Y Pwyllgor Deisebau’n trafod deiseb i sefydlu tîm criced rhyngwladol yng Nghymru"

Cyhoeddwyd 20/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Fel aelod o’r Pwyllgor Deisebau, camais i’r bwlch i gadeirio cyfarfod y Pwyllgor Deisebau ar 13 Mawrth, a hynny yn absenoldeb y Cadeirydd. Bydd cyfarfodydd y Pwyllgor Deisebau bob amser yn trafod ystod amrywiol o bynciau, ond roedd cyfarfod dydd Mawrth yn arbennig o ddiddorol, oherwydd cafwyd trafodaeth fywiog ar y ddeiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r cam i sefydlu tîm criced rhyngwladol o Gymru. Ystyriwyd y ddeiseb hon gyntaf gan y Pwyllgor ym mis Hydref 2011. Yna, penderfynodd y Pwyllgor gasglu gwybodaeth gytbwys ynghylch a oes cefnogaeth i sefydlu tîm criced cenedlaethol ai peidio. Gellir gweld y wybodaeth hon drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1901 Oherwydd y farn gref a fynegwyd o blaid ac yn erbyn y ddeiseb, penderfynodd y Pwyllgor daro’r bêl yn ôl, fel petai, i’r ymatebwyr, a thrafod y mater. Y prif ymatebwyr a wahoddwyd i’r drafodaeth oedd: y deisebydd, Jonathan Edwards AS, Mohammad Asghar AC, Chwaraeon Cymru, Criced Morgannwg a Chriced Cymru. Cafodd nifer o bwyntiau eu gwyntyllu yn ystod y drafodaeth, yn cynnwys manteision ac anfanteision sefydlu tîm o Gymru, y broses ei hun o sefydlu’r tîm ac effaith hynny ar ariannu’r gamp. Yn ychwanegol at hyn, trafodwyd yr effaith ar Glwb Criced Sir Forgannwg. Ar hyn o bryd, bydd Morgannwg yn cymryd rhan yng nghystadlaethau Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ar y lefel uchaf a gall wneud cais i gynnal gemau prawf sy’n cynnwys tîm Lloegr yn ei stadiwm ei hun. Mae Criced Cymru’n dadlau, pe bai Cymru’n dod yn genedl griced annibynnol, y byddai statws Morgannwg fel sir o’r radd flaenaf a’r arian a gaiff gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr mewn perygl. Mae pobl eraill yn dadlau, fodd bynnag, y gallai Morgannwg barhau i gael arian a chadw ei statws fel aelod a gwarantydd o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr. Soniwyd am adolygiad Woolf o lywodraethu’r Cyngor Criced Rhyngwladol yn ystod y drafodaeth hefyd. Roedd yr adolygiad yn argymell y dylid symleiddio lefelau aelodaeth gwahanol y Cyngor, a allai effeithio ar unrhyw dîm annibynnol o Gymru hefyd. Bydd y Cyngor Criced Rhyngwladol yn ystyried yr adroddiad a’i argymhellion ym mis Ebrill 2012. Trafodir yr holl bwyntiau a nodwyd yn ystod y drafodaeth gan y Pwyllgor Deisebau yn ei gyfarfod nesaf ar 27 Mawrth, am 9 o’r gloch. Gellir gwylio’r cyfarfod yn fyw yn Senedd TV neu wylio’r cyfarfod yn fyw o’r oriel gyhoeddus yn y Senedd. Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i’r cyfarfod, ac roeddwn wrth fy modd o weld y nodyn trydar isod gan Jonathan Edwards AS: "sesiwn buddiol iawn ddoe, dangos gwerth fforwm fel pwyllgor petitions ir broses democrataidd" Joyce Watson AC