Mae'r deisebwyr yn ceisio cael gwell cydnabyddiaeth o symptomau Diabetes Math 1 ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd er mwyn cynorthwyo i gael diagnosis a thriniaeth gyflym ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â'r cyflwr. Mae hyn yn hollbwysig oherwydd, os na wneir y diagnosis, gall y cyflwr ddatblygu'n gyflym yn fygythiad i fywyd yr unigolyn. Yn drist iawn, dyma oedd yr achos gyda Peter Baldwin.
Yn benodol, mae'r teulu am sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad at offer profi gwaed drwy bigo bys, a all roi syniad ar unwaith ynghylch a all plentyn fod yn ddiabetig. Mae hefyd yn hanfodol bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu hyfforddi i adnabod symptomau mwyaf cyffredin diabetes Math 1 - y Pedwar T (Toiled, Blinder, Syched a Theneuo).
Mae codi ymwybyddiaeth yn allweddol i ganfod diabetes Math 1 yn gynnar mewn plant a phobl ifanc.
Cyhoeddwyd 13/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Erthygl gwestai gan David Rowlands AC, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad.
Dydd Gwener 13 Gorffennaf, cyhoeddodd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ein hadroddiad ar ddeiseb sy'n galw am driniaeth well ar gyfer diabetes Math 1 mewn plant a phobl ifanc. Cyflwynwyd y ddeiseb gan y teulu Baldwin, a gollodd eu mab/brawd 13 oed, Peter, a fu farw o ganlyniad i beidio â chael ei drin yn effeithiol ar gyfer diabetes Math 1.