
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod bellach yn un o lofnodwyr Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned.
O edrych ar wefan Ffeithiau a Ffigurau Ethnigrwydd Archwiliad Gwahaniaeth Hil ac Arolwg Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned, gwyddom fod lleiafrifoedd ethnig yn dal i wynebu gwahaniaethau sylweddol ym maes cyflogaeth a datblygiad, a bod yn rhaid i rywbeth newid. Mae adolygiad McGregor-Smith wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen mwy o gynnydd a chanlyniadau cadarnhaol bellach er mwyn sicrhau bod pob sefydliad yn elwa o’r cyfoeth o dalent amrywiol a gynigir.
Mae’r Siarter yn helpu busnesau i wella cydraddoldeb hil yn y gweithle ac mae’n cynnwys pum prif alwad i weithredu ar gyfer arweinwyr a sefydliadau ar draws pob sector. Y pum prif alwad i weithredu yw:
• Penodi noddwr gweithredol dros hil.
• Cael data ar ethnigrwydd a rhoi cyhoeddusrwydd i gynnydd.
• Ymrwymo ar lefel Bwrdd i ddim goddefgarwch o ran aflonyddu a bwlio.
• Gwneud yn glir mai cyfrifoldeb pob arweinydd a rheolwr yw cefnogi cydraddoldeb yn y gweithle.
• Cymryd camau gweithredu sy’n cefnogi dilyniant gyrfa lleiafrifoedd ethnig.

Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon ac mae’n gyfle gwych i lansio’r ffaith ein bod wedi ymrwymo i’r Siarter. Mae llofnodi’r Siarter yn golygu ein bod yn ymrwymo i gymryd camau ymarferol i wella cydraddoldeb ethnig yn y gweithle a mynd i’r afael â’r rhwystrau y mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu wrth recriwtio a datblygu a sicrhau bod ein sefydliad yn gynrychioliadol o gymdeithas Prydain heddiw.
Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
“Bydd llofnodi'r Siarter yn ategu ein gwaith amrywiaeth parhaus i sicrhau ein bod ni, fel sefydliad seneddol ar gyfer holl bobl Cymru, yn ymddwyn fel cyflogwr cynhwysol, gan ddenu a chadw talent, gan alluogi pawb rydyn ni'n eu cyflogi i wireddu eu potensial llawn a’n bod ni’n chwalu'r rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn rhwystro cyfleoedd i grwpiau penodol o bobl waeth beth fo’u hil a’u hethnigrwydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld ein cynnydd wrth inni gychwyn ar y Siarter, yn ogystal â gweithgareddau meincnodi a chydnabod eraill.”
Dywedodd Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am amrywiaeth a chynhwysiant:
“Rwy’n falch iawn o weld bod Comisiwn y Cynulliad yn un o lofnodwyr y siarter hon. Mae Cymru yn genedl amrywiol, a dylai hynny gael ei adlewyrchu yn ei gweithlu. Fel Comisiynydd dros Gydraddoldeb a Phobl, byddaf yn mynd ati i hyrwyddo a monitro cynnydd.”
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
“Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Rwy’n credu bod llofnodi’r Siarter yn rhan werthfawr o sicrhau hynny.”
