Efallai eich bod wedi clywed bod etholiad y Senedd ddydd Iau 7 Mai.
Efallai mai’r hyn na wyddoch chi yw pam mae'r etholiad yn bwysig, a beth mae'n ei olygu i chi a'ch cymuned.
Pam mae etholiad y Senedd yn bwysig?
Mae’r Senedd yn bwysig oherwydd bydd gan yr Aelodau o'r Senedd y byddwch chi’n eu hethol y pŵer i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru.
Mae rhai o'r materion y mae'r Senedd – ac Aelodau o'r Senedd (Aelodau) – yn gyfrifol amdanynt yn cynnwys:
- Amaethyddiaeth
- Diwylliant
- Addysg
- Yr amgylchedd
- Iechyd a gwasanaethau gofal iechyd
- Tai
- Rhai trethi
- Trafnidiaeth
- Y Gymraeg
Eich cynrychioli chi
Ar ôl yr etholiad, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn lle 60.
Bydd gan bawb yng Nghymru chwech Aelod yn cynrychioli eu hardal. Gallwch gysylltu ag unrhyw un ohonynt am faterion yn eich cymuned – waeth pwy y gwnaethoch chi bleidleisio drostyn nhw.
Bydd cael rhagor o Aelodau yn gwella gallu’r Senedd i edrych ar gynlluniau Llywodraeth Cymru a’i gwariant ar faterion pwysig a allai effeithio arnoch chi, fel ysbytai, addysg a thrafnidiaeth, ac yn gwella ei gallu i herio’r cynlluniau hynny
Bydd cael 96 o Aelodau yn golygu y bydd y Senedd yn debycach i wledydd eraill o faint tebyg i Gymru, fel yr Alban sydd â 129 o Aelodau a Gogledd Iwerddon sydd â 90.
Yn eich cymuned
Pan nad ydyn nhw'n gweithio yn y Senedd, mae gan y rhan fwyaf o Aelodau swyddfa leol yn eu hetholaeth.
Yn ogystal â bod yn wleidyddion, maen nhw’n rhan o’ch cymuned chi.
Maen nhw’n cynnal sesiynau galw heibio, sef cymorthfeydd, sy’n gyfle i gwrdd â nhw a thrafod materion lleol sy’n bwysig i chi. Gallwch hefyd gysylltu â nhw ar-lein neu dros y ffôn.
Ar ôl clywed gennych chi, gallai’ch Aelod dynnu sylw at eich pryder yn y Senedd. Gallai ofyn cwestiwn neu drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn.
Mae Aelodau hefyd yn ymweld ag ysgolion, busnesau a sefydliadau lleol eraill i feithrin cysylltiadau â’r bobl maen nhw’n eu cynrychioli. Mae’r ymweliadau hyn yn eu helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn lleol a dod â’r lleisiau hynny yn ôl i’r Senedd.
Pam mae hyn yn well?
Un o'r gwelliannau mwyaf fydd y bydd gennych chi a phobl yn eich cymuned fwy o ddewis ynghylch pa Aelod rydych chi am gysylltu â nhw ynghylch mater.
Er enghraifft, os ydych chi am godi mater ynglŷn â rhywbeth sy'n ymwneud â'r GIG, gallech gysylltu ag Aelod rydych chi'n gwybod sy'n angerddol am y pwnc. Os oes gennych bryderon am faterion amaethyddol neu bolisïau busnes, efallai y byddwch yn dewis cysylltu ag Aelod gwahanol.
Gallech hefyd gysylltu â phob un o’r chwe Aelod amdano. Eich dewis chi ydyw.
Sut rydw i’n cysylltu ag Aelodau o’r Senedd?
Gallwch gysylltu ag unrhyw un o’ch Aelodau’n bersonol, ar-lein, neu dros y ffôn, waeth pwy y gwnaethoch chi bleidleisio drostynt. Maen nhw i gyd yn eich cynrychioli chi’n gyfartal.
Eich Aelodau chi yw eich cynrychiolwyr yn Senedd Cymru, a gallan nhw ofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru ar eich rhan.
Ddim yn siŵr pwy yw eich Aelodau? Defnyddiwch eich cod post i chwilio amdanyn nhw.
Mae Cymru'n dewis
Pan fyddwch chi'n pleidleisio, rydych yn helpu i ddewis y bobl a fydd yn cynrychioli eich cymuned yn y Senedd, a llunio'r math o wlad rydych chi am fyw ynddi. Gall eich pleidlais chi lunio eich dyfodol – gwnewch eich marc ar 7 Mai.
Sut mae canfod rhagor am Etholiad y Senedd?
Gallwch ddysgu rhagor am etholiad y Senedd drwy ymweld å’n hwb Etholiadau.