“Nid oes dim gofal i ofalwyr di-dâl” - Lleisiau Gofalwyr Di-dâl yng Nghymru

Cyhoeddwyd 20/11/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/11/2025

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi lansio ymchwiliad i Wella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl.  

Fel rhan o'r ymchwiliad, roedd y Pwyllgor eisiau clywed gan ofalwyr yn uniongyrchol.

Drwy gyfweliadau a chyfarfodydd grwpiau ffocws, casglodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd sylwadau a barn gan ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae eu straeon yn datgelu'r heriau maen nhw'n eu hwynebu a'r atebion maen nhw'n credu a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Bob dydd, mae miloedd o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu gofal hanfodol i anwyliaid—yn aml ar gost fawr iddynt hwy’n bersonol. Mae eu cyfraniad yn arbed miliynau o bunnoedd i’r gwasanaethau cyhoeddus, ond mae llawer o ofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a heb gefnogaeth. Fel y dywedodd un gofalwr wrthym:

"Rwy'n teimlo fel fy mod yng nghanol cefnfor ac ni allaf ddod allan ohono."

Beth yw'r prif rwystrau i gymorth effeithiol?

Siaradodd gofalwyr yn agored am eu profiadau. Er bod llawer wedi disgrifio eiliadau o falchder a theimladau o foddhad, fe wnaethant hefyd dynnu sylw at rwystrau sy'n gwneud gofalu'n anoddach nag sydd angen iddo fod.

  1. Ymwybyddiaeth Gyfyngedig o Gymorth

    Roedd llawer o ofalwyr nad oedd yn gwybod pa gymorth a oedd ar gael. Yn aml, roedd Asesiadau o Ofalwyr, a gynlluniwyd i nodi anghenion cymorth, yn anhysbys neu yn anhygyrch i bobl.

    “Mae nifer y bobl nad ydyn nhw’n gwybod bod angen asesiad gofalwr arnyn nhw yn anhygoel.”

    Roedd rhai gofalwyr yn dod i ben â thasgau meddygol cymhleth, a hynny heb gael hyfforddiant:

    “Does neb yn eich dysgu sut i roi morffin… Rydw i'n llythrennol yn rhoi'r cyfan at ei gilydd wrth ddilyn ChatGPT"

  2. Cefnogaeth nad yw'n addas

    Yn aml, nid oedd y gwasanaethau'n adlewyrchu amrywiaeth anghenion gofalwyr. Roedd gofalwyr unigol yn teimlo'n ynysig, tra bod y rhai a oedd yn gofalu am nifer o bobl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at seibiant a oedd yn gweithio i'w hamgylchiadau.

    “Nid oes cymorth i’w gael … pan fyddwch chi'n cael cymorth, nid yw’n ymatebol i'ch anghenion bob amser.”
  3. Teimlo nad ydynt ddim yn cael eu gwerthfawrogi

    Siaradodd gofalwyr am stigma a chamddealltwriaeth. Disgrifiwyd y Lwfans Gofalwr fel “cyflog pitw,” ac roedd llawer yn teimlo nad oedd eu lleisiau’n cael eu clywed mewn penderfyniadau am ofal.

    “Mae angen cael gwared ar y rhan ‘ddi-dâl’ o fod yn ofalwr.”
  4. Rhwystrau i Asesiadau Gofalwyr

    Yn aml, disgrifiwyd asesiadau fel “ymarferion ticio blychau”. Cafodd rhai gofalwyr eu gwrthod neu dywedwyd wrthynt nad oeddent yn gymwys, hyd yn oed pan oeddent yn cael trafferthion emosiynol ac ariannol.

    “Gan fy mod i’n cael cyflog da ac yn dod o’r dosbarth canol, dywedwyd wrtha i ‘nad oedd ar fy nghyfer i.”
  5. Anhawster i gael seibiant go iawn

    Roedd gofal seibiant yn brin ac weithiau'n anniogel. Byddai gofalwyr yn gohirio eu hanghenion iechyd eu hunain oherwydd nad oedd neb arall ar gael i ofalu.

    “Mae angen cyfnod o seibiant arnaf dim ond i fod yn sâl.”

    Hyd yn oed pan gynigiwyd seibiant, roedd gofalwyr yn poeni am ansawdd y gofal:

    “Rydych chi’n methu ag ymlacio yn sgil yr ansicrwydd o wybod y gallai’r ffôn ganu unrhyw funud… Hyd yn oed gyda seibiant ar waith, mae’n dal yn llawn straen.”
  6. Heriau Systemig

    Roedd rhwystrau iaith, ffurflenni anhygyrch, a chyfathrebu gwael yn gwneud llywio cymorth yn llethol.

    “Mae’r ffurflen DLA yn cymryd chwe wythnos i’w llenwi – y diafol a ysgrifennodd y ffurflenni hynny.”
  7. Ystyrir bod gofal seibiant yn loteri cod post

    Pan ofynnwyd iddynt i ba raddau oedd gofal seibiant ar gael iddynt, dywedodd cyfranogwyr o bob un o bum rhanbarth y Senedd yr un peth wrthym yn bennaf:

    “Dim… yw’r ateb syml. Does dim byd yno i chi.”

    Roedd opsiynau seibiant yn gyfyngedig, wedi'u tan-ariannu, ac wedi'u dosbarthu'n anwastad.

    Roedd gofalwyr gwledig yn wynebu heriau ychwanegol, ac roedd prinder Cynorthwywyr Personol hyfforddedig yn golygu nad oedd hyd yn oed y gofalwyr cymwys yn gallu cael seibiannau.

Yr hyn y mae Gofalwyr Di-dâl eisiau ei weld

Rhannodd y cyfranogwyr syniadau ymarferol ar gyfer newid, gan gynnwys:

  • Eiriolwyr Gofalwyr i arwain pobl drwy’r wasanaethau a ddarperir.
  • Dewisiadau seibiant hyblyg a chanolfannau cymunedol ar gyfer cysylltu â phobl eraill.
  • Archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer gofalwyr.
  • Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus i herio stigma.
  • Proffesiynoli gwaith gofal gyda chyflog a hyfforddiant gwell.

Casgliad


Mae gofalwyr di-dâl yn gofyn am degwch, urddas a chefnogaeth sy’n addas iddynt. Fel y dywedodd un cyfranogwr:

“Mae bywyd wedi dod yn gymhleth iawn… ond dw i'n cadw person yn fyw. Ar fy mhen fy hun.”

Bydd yr adroddiad llawn ar y gwaith ymgysylltu a wnaed ar gael ar dudalen we ymchwiliad y Pwyllgor yn fuan.